Mae AC y Rhondda Leanne Wood wedi annog busnesau yn Ystrad i ystyried cymryd masnachfraint Swyddfa’r Post yn Ystrad wedi i arian ddod ar gael.
Bu’r dref yn y Rhondda heb Swyddfa Bost ers dros ddwy flynedd. Bu’r cynghorwyr Plaid Cymru lleol Elyn Stephens a Larraine Jones wedi bod yn rhan o ymdrechion i annog busnesau lleol i gynnal gwasanaeth Swyddfa’r Post, ond yn ofer.
Yn dilyn gohebiaeth rhwng Swyddfa’r Post a swyddfa Leanne Wood AC, datgelwyd bellach fod Swyddfa’r Post wedi peri bod cyllid ar gael i ganiatáu i siop sy’n bodoli eisoes i ymgorffori Swyddfa’r Post.
Ychwanegodd llefarydd dros Swyddfa’r Post: “Yr ydym yn sylweddoli faint mae cwsmeriaid lleol yn colli peidio â chael Swyddfa’r Post yn lleol. Hoffwn eich sicrhau ein bod yn ymroddedig o hyd i adfer gwasanaeth i Ystrad cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib.”
Dywedodd Ms Wood: “Gobeithio y bydd cynnig cyllid newydd yn gwneud gwahaniaeth o ran perswadio busnes i ystyried cynnal Swyddfa’r Post i Ystrad.
“Mae’n chwith iawn ar ôl y gwasanaeth ers iddo ddiflannu ddwy flynedd yn ôl. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i bobl leol deithio ymhellach i gyrraedd gwasanaethau hanfodol ac nid yw hyn yn wastad yn bosib, yn enwedig i bensiynwyr.
“Yr oedd colli Swyddfa’r Post yn rhywbeth a godwyd yn Fforwm 50+ ddiweddar yn y Rhondda y cymerais ran ynddi. Byddai’n hwb enfawr i’r dref pe gellid adfer Swyddfa’r Post rywsut. Buaswn yn annog perchenogion unrhyw fusnes sydd â diddordeb yn y posibilrwydd hwn i gysylltu er mwyn gweld sut y gall Swyddfa’r Post helpu i wneud hyn ddigwydd.”
Am fwy o wybodaeth am yr help a ddarperir, e-bostiwch Stuart Taylor, rheolwr cysylltiadau allanol i Swyddfa’r Post, gan ddefnyddio’r cyfeiriad hwn: stuart.taylor@postoffice.co.uk
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter