Mae AC Cwm Rhondda wedi llongyfarch ysgol leol ar adroddiad arolygu cadarnhaol.
Arolygwyd Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn ddechrau'r flwyddyn a derbyniodd feirniadaeth gyffredinol 'dda' gan Estyn.
Dywedodd yr adroddiad: 'Mae'r ysgol yn gymuned hapus lle mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn dangos cynnydd da o'u mannau cychwyn. Mae'r disgyblion yn defnyddio'r iaith Gymraeg â balchder. Mae hyn y treiddio trwy holl fywyd a gwaith yr ysgol.
'Mae gan y rhan fwyaf o'r disgyblion agwedd gadarnhaol at ddysgu. Maen nhw'n canolbwyntio ac yn dyfalbarhau am gyfnodau hir. Mae bron pawb yn ymddwyn yn dda, yn yr ystafell ddosbarth ac o gwmpas yr ysgol. Maen nhw'n fawr eu gofal o'i gilydd ac yn trin oedolion ac ymwelwyr yn aeddfed a gyda pharch a chwrteisi.'
Ychwanegodd: 'Mae'r prifathro'n rhoi arweiniad cadarn ac effeithlol i'r staff a'r disgyblion sy'n sicrhau cyfeiriad strategol clir i'r ysgol a diwylliant sy'n hyrwyddo cynnydd parhaus.
'Mae gan bob aelod o'r staff weledigaeth gadarn o hyrwyddo Cymreictod, meithrin parch ac annog plant o wneud eu gorau. Mae's staff yn ymroddgar ac yn frwd, ac yn cydweithio'n dda er sicrhau bod gan yr ysgol ysbryd gofalgar a bod trefniadau mewn lle i sicrhau lles y disgyblion. Mae'r ysgol yn derbyn cefnogaeth dda gan y Llywodraethwyr.'
Dywedodd Leane:"Mae hyn y gamp fawr i'r ysgol ac yn brawf o'r gwaith caled a wnaed gan bawb, yr athrawon, staff cynorthwyol, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr.
"Rwy'n hyderus y bydd yr ysgol yn mynd o nerth i nerth gyda'r fath gefnogaeth, ymroddiad ac addysgu."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter