Mae arweinydd Plaid Cymru ac AC y Rhondda Leanne Wood, wedi dweud “na ddylai trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd ddioddef yn sgil Brexit”. Dywedodd y bydd Plaid Cymru yn pwyso ar Adran Drafnidiaeth y DG er mwyn sicrhau y gwneir iawn yn llawn am unrhyw arian UE a gollir o Gymru.
Mae ffynonellau’r diwydiant rheilffyrdd wedi rhybuddio yng nghylchgronau’r fasnach (Modern Railway, Awst 2016) fod “canlyniad refferendwm yr UE fel petai wedi chwalu cynllun Llywodraeth Cymru i drydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd”, gan ychwanegu mai’r sôn oedd y byddai £150m o’r arian oedd i ddod ar gyfer y prosiect allan o gronfeydd strwythurol yr UE. Mae rhybuddion yn yr un cyhoeddiad gan y Trysorlys y bydd arian yn “brin” ar gyfer gwelliannau i reilffyrdd rhwng 2019 a 2024.
Yr oedd y gwaith ar drydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd, rhan o brosiect ehangach Metro De Cymru, i fod i gychwyn yn 2019 a chael ei gwblhau erbyn 2022/23, ond yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE, codwyd pryderon am oblygiadau’r bleidlais i gyllid y datblygiad.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau, heb arian yn lle cyllid yr UE, y bydd yn rhaid i’r Metro, fyddai wedi ei seilio o gwmpas trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd, fod ar raddfa lai.
Addawodd ymgyrchwyr yr ymgyrch Adael, y mae llawer ohonynt bellach mewn swyddi uchel yn Llywodraeth Geidwadol y DG, wedi addo y byddai arian yn dod yn lle holl gronfeydd yr UE oedd ar gael i Gymru petai Brexit yn digwydd.
Mae Leanne Wood wedi galw am sicrwydd gan lywodraethau’r DG a Chymru y bydd trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd yn digwydd yn ôl y bwriad.
Meddai Leanne Wood: “Dyma’r pwnc mwyaf ym maes cludiant sy’n wynebu Cymru. Bydd trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd yn cael sgil-effaith ar welliannau mewn rhannau eraill o’r wlad, fel y gogledd a’r gorllewin. Mae Cymru gyfan yn hyn gyda’i gilydd, ac ni ddylai trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd ddioddef yn sgil Brexit. Y gwir yw, os bydd yn cael ei oedi neu ei wneud ar raddfa lai, mae’n golygu y byddwn yn dal i orfod goddef trenau sâl, araf a gorlawn. Ond wnaiff prisiau tocynnau ddim gostwng.
“Manteision trydaneiddio yw y cawn drenau a gorsafoedd gwell, mwy gwyrdd a mwy modern, a gwneud y cymoedd yn llefydd mwy deniadol fyth i ymweld â hwy. Mae cymudwyr y cymoedd yn haeddu gwell gwasanaeth gan ein bod eisoes yn gorfod dioddef oedi.
“Dylai Llywodraeth y DG anrhydeddu’r ymrwymiadau a wnaed gan ymgyrchwyr Gadael y byddai cyllid cyfatebol o San Steffan yn dod i gymryd lle cronfeydd yr UE. Bydd yn arwydd chwerw o agwedd San Steffan tuag at Gymru os bydd yn rhaid israddio’r prosiectau rheilffyrdd hyn o ganlyniad i’r ffordd y pleidleisiodd llawer o’n cymunedau yn refferendwm yr UE.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru frwydro er mwyn sicrhau na fydd trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd yn cael ei aberthu i fodloni dymuniadau Trysorlys y DG. Ni ddylent chwaith ganiatáu i Lywodraeth y DG wneud tro sâl â Chymru trwy ohirio trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd – fel y gwnaethant eisoes gyda thrydaneiddio prif reilffordd y Great Western i’r gorllewin o Gaerdydd i Abertawe. All y cymoedd ddim fforddio bod ar eu colled eto fyth.”
Os ydych am ymuno â’r Blaid i helpu sicrhau nad yw Cymru’n colli allan yn ariannol o ganlyniad i Brexit, cliciwch y ddolen hon.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter