Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood heddiw wedi cyhoeddi y bydd ei phlaid yn defnyddio pleidlais yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddydd Mercher i geisio mwyafrif dros aros yn undeb tollau presennol yr UE.
Dywedodd Leanne Wood fod y dystiolaeth yn “cronni” o blaid bargen Brexit sy’n crwydro cyn lleied ag sydd modd o’r status quo, ac y dylai pob plaid yng Nghymru uno ar yr hyn sydd o bwys i fuddiannau economi Cymru.
Daw ei galwad wrth i sibrydion ledu am safbwynt Llafur ar barhad aelodaeth o’r undeb tollau, na fu’n glir o gwbl hyd yma.
Dywedodd Leanne Wood AC:
"Mae tystiolaeth yn cronni y gallai economi Cymru ddioddef ergydion caled oherwydd Brexit caled lle byddai’n rhaid i’r DG weithredu dan reolau caeth Sefydliad Masnach y Byd.
"Gwyddom fod y Torïaid yn barod i aberthu swyddi ac economi Cymru, ond wyddom ni ddim beth yw safbwynt Llafur. Mae gwahaniaeth pwysig rhwng "yr undeb tollau" ac “undeb tollau."
"Y cyntaf yw dewis Plaid Cymru gan y byddai’n cynnig y warchodaeth fwyaf i economi Cymru. Bydd “undeb tollau” o fath arall yn ein gweld ar ein colled mewn bargeinion masnach trydydd parti hanfodol.
"Dyna pam ein bod yn ailadrodd ein galwadau am i Gymru ddangos undod o blaid aros yn undeb tollau presennol yr UE.
"Ar ddydd Mercher, bydd Plaid Cymru yn arwain dadl yn y Senedd i gynnal pleidlais ar hyn. Mae’n hanfodol fod llaw Cymru’n cael ei chryfhau mewn unrhyw drafodaethau ar Brexit – allwn ni ddim gwneud hyn heb fwy o rym i drafod.
"Rydym yn annog ACau o bob plaid i uno gyda ni i bledio’r achos dros amddiffyn sectorau ac allforion allweddol trwy barhau i gefnogi aelodaeth o’r undeb tollau. Bydd hyn yn gyfle iddynt ddangos eu hymrwymiad i ddyfodol economi Cymru.
"Po fwyaf y bydd Cymru’n siarad ag un llais yn hyn o beth, mwyaf tebygol y mae San Steffan o wrando."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter