Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi annog pobl i gefnogi siop elusen newydd a sefydlwyd i godi arian i ail-agor Twnel y Rhondda.
Yr oedd AC y Rhondda yn siarad wedi taith feics gan dyrfa gydag aelodau Cymdeithas y Twnel, heddweision, aelodau o’r elusen feicio Sustrans a phlant ysgol lleol o agoriad y twnel at y siop elusen yn Nhreorci.
Yr oedd y daith yn dilyn estyniad arafethedig i’r rhwydwaith feicio a fyddai’n arwain at agoriad y twnel, gan wneud y llwybr danddaear rhwng y Rhondda Fawr a dyffrynnoedd Afan yn fwy hygyrch. O ail-agor y twnel, y daith fyddai’r llwybr beicio trwy dwnel ail hwyaf yn y byd.
Wrth siarad wedi’r daith, meddai Ms Wood: "Yr oedd y digwyddiad yn garreg filltir yn hanes y prosiect uchelgeisiol a chyffrous hwn.
"Nid yn unig yr oedd yn cyd-fynd ag agoriad swyddogol yr hyn fydd, gobeithio, yn ffrwd incwm reolaidd i Gymdeithas Twnel y Rhondda, ond yr oedd yn dangos hefyd y llwybr hardd posib yn ôl ac ymlaen o geg y twnel.
"Yr oedd yn wych gweld gwir gymysgedd o oedrannau a galluoedd beicio ar y daith, sy’n dangos yn union sut y mae beicio yn rhywbeth y gall pobl o bob oed ei fwynhau.
"Mae cymaint o botensial i’r prosiect hwn o ran gwneud y Rhondda yn gyrchfan unigryw i nifer cynyddol o feicwyr. Petae’n fater o waith dygn a chaled a brwdfrydedd aelodau cymdeithas y twnel, rwy’n sicr y gwnaiff y prosiect lwyddo.
"Rwy’n gobeithio y bydd pobl Treorci a’r cyffiniau yn cefnogi’r siop newydd gydag anrhegion o nwyddau a thrwy fod yn gwsmeriaid. Petae’r siop yn llwyddo, gallai wneud gwir wahaniaeth i’r prosiect."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter