Leanne Wood: Llywodraeth Prydain a Trump yn paratoi “TTIP Newydd”

 MH_050716_Plaid_Cymru_020.JPG

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi condemnio’r sôn am fargen fasnach rydd rhwng Llywodraeth y DG a’r Unol Daleithiau dan Donald Trump fel rhywbeth fyddai’n agor y drws i “TTIP Newydd”.

Dywedodd y gallai sôn am fargen fasnach rhwng y gwledydd fod yn arwydd o “gam pellach tuag at globaleiddio” gan rymoedd ceidwadol yn y ddwy wlad.

Seiliwyd diwygiadau etholiadol Donald Trump ar wrthod ymestyn globaleiddio, ond dywedodd Leanne Wood eto fod cynghreiriaid a phartneriaid Trump yn Llywodraeth y DG yn neo-ryddfrydwyr rhonc.

Yr wythnos hon, dywedodd Llywodraeth y DG y byddai’n agored i “drafodaethau cwmpasu” gyda’r Unol Daleithiau ar fargen fasnach rydd. Gall trafodaethau llawn gychwyn yn unig pan ac os bydd y DG yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth siarad mewn cyfweliad gyda’r cyn wleidydd Toriaidd Michael Gove, dywedodd yr Arlywydd Etholedig Trump ei fod eisiau “ei wneud (bargen masnach rydd rhwng y DG ac UDA) yn iawn ac yn gyflym”.

Yr oedd Llywodraeth Geidwadol y DG yn gefnogwr brwd o TTIP, y Bartneriaeth Masnach a Phartneriaeth Draws-Iwerydd, a gondemniwyd gan feirniaid gan gynnwys Plaid Cymru fel bygythiad i wasanaethau cyhoeddus ac ymgais i greu Llysoedd

Corfforaethol dirgel. Yn ôl Plaid Cymru, buasai TTIP wedi caniatau i gorfforaethau amlwladol fynd â llywodraethau democrataidd i gyfraith petai penderfyniadau polisi lleol yn niweidiol i’w helw.

Ataliwyd TTIP oherwydd gwrthwynebiad ymgyrchwyr a rhai llywodraethau sy’n aelod-wladwriaethau o’r UE. Fe’i beirniadwyd yn hallt hefyd yn ystod craffu yn Senedd Ewrop.

Galwodd arweinydd Plaid Cymru hefyd am i fusnesau a chymunedau yng Nghymru fod yn effro i fygythiadau bargeinion masnach gyda Seland Newydd neu wledydd eraill na fyddai’n adlewyrchu buddiannau cenedlaethol Cymru. Gallai bargen gyda Seland Newydd yn arbennig agor marchnadoedd Cymru i fwy o allforion o dramor, cig oen yn enwedig.

Meddai arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:

“Fel y dywedodd Plaid Cymru eisoes, gallai cysylltiadau rhwng y DG ac UDA yn awr arwain at TTIP Newydd.

“Nid yw’r elite neo-ryddfrydol yn y DG wedi troi’n sydyn yn ddiffyndollwyr, ond fe allent droi yn awr tuag at fwy o globaleiddio trwy ‘Brexit Caled’. Byddai hyn yn seiliedig ar ddad-reoleiddio, preifateiddio a diddymu camau i warchod gweithwyr a defnyddwyr.

“Fyddai cael fy mhrofi’n iawn am hyn dros y blynyddoedd i ddod yn rhoi dim pleser i mi. Rhaid i ni wrthwynebu unrhyw ymgais i ail-gyflwyno’r syniad o lysoedd corfforaethol dan gochl ‘datrys anghydfod gan wladwriaethau buddsoddi’. Os bydd Llywodraeth y DG a Trump yn dod i fargen masnach rydd wedi i Brexit ddigwydd, dylem bwyso arnynt i hyn beidio â chael unrhyw effaith ar wasanaethau cyhoeddus.

“Mae’r farchnad Sengl Ewropeaidd yn ddewis gwell. Ardal masnach rydd ydyw, ond y mae’n cynnwys safonau da i ddefnyddwyr, gweithwyr a’r amgylchedd. Un o’r rhesymau pam fod y Toriaid eisiau gadael y farchnad hon yw er mwyn lleihau’r camau gwarchod hyn.

“Seiliwyd poblogrwydd Donald Trump mewn rhai taleithiau ar wrthod globaleiddio. Ond mae’r buddiannau corfforaethol fydd o blaid bargen masnach rydd yn gryf o blaid dad-reoleiddio. Mae’r rhain yn lobïwyr pwerus sydd o hyd yn pwyso am fwy o fasnach ‘rydd’ a llai o warchodaeth gymdeithasol. Mae’r Toriaid yn y DG yn wastad wedi bod eisiau preifateiddio’r GIG yn raddol, a gallent ddefnyddio’r fargen masnach rydd i hyrwyddo’r agenda honno a’i hagor i ddarparu gan gwmniau meddygol o America.

“Gallai ymgyrch gref yn y blynyddoedd i ddod eu hatal rhag gwneud hyn.

“Mae’r Ceidwadwyr yn sensitif am eu record ar y GIG, ac yr oedd TTIP yn amhoblogaidd gyda rhai pleidleiswyr ‘gadael’. Mae Plaid Cymru am sicrhau’r bobl hynny ein bod ninnau hefyd yn gwrthwynebu TTIP a dad-reoleiddio.

“Gwnaeth Plaid Cymru yn siwr fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwrthwynebu TTIP ac fe fuasem yn mynnu llais ar unrhyw fargeinion felly yn y dyfodol hefyd.”

Ar fater masnachu gyda marchnadoedd y tu allan i Ewrop wedi Brexit, ychwanegodd Leanne Wood:

“Mae Plaid Cymru yn cefnogi masnachu gyda’r Unol Daleithiau dan y trefniadau presennol. Er mai prif bartner masnach Cymru yw’r Farchnad Sengl Ewropeaidd, medrodd Cymru hefyd ehangu ei hallforion i Ogledd America heb fod angen TTIP na’r llysoedd corfforaethol dirgel y buasai hyny wedi’u creu.

“Mae sôn am fargen fasnach gyda Seland Newydd yn gamarweiniol o ran ei gwerth i Gymru, o gymharu ag aros yn rhan o’r Farchnad Sengl. Galai hefyd fod yn ddrwg i gig oen Cymru.

“Fydd Plaid Cymru ddim yn cefnogi dim fydd yn bygwth sector amaethyddol Cymru. Rydym yn annog pobl yng Nghymru i barhau i brynu cig oen Cymru lle bo modd, i gefnogi ein ffermwyr, ein hiaith a’n cymunedau gwledig.”

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.