Mae AC y Rhondda Leanne Wood wedi beirniadu cefnogaeth San Steffan i adnewyddu taflegrau niwclear y DG ar gost o fwy na £100 biliwn dros eu heinioes.
Yn dilyn dadl yn gynharach yr wythnos hon, pleidleisiodd Tŷ’r Cyffredin i adnewyddu system arfau Trident trwy fwyafrif o 355 o ASau. Ymunodd dros hanner yr ASau Llafur â’r Torïaid i gefnogi cael llongau tanfor niwclear newydd sydd wedi eu lleoli yn Faslane yn yr Alban.
Ymysg y rhai a bleidleisiodd yn erbyn adnewyddu Trident yr oedd y tri AS Plaid Cymru.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, ar adeg o fwy o doriadau yn y sector cyhoeddus a thocio ar wasanaethau lleol, nad oedd yn gwneud synnwyr i wario cymaint o arian ar “un o greiriau’r rhyfel oer.”
“Allwn ni ddim fforddio cadw ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr ar agor – pethau fel canolfannau dydd, ysgolion, llyfrgelloedd, pyllau padlo,” meddai Ms Wood o Benygraig.
“Allwn ni ddim fforddio buddsoddi angenrheidiol yn ein gwasanaethau iechyd, cefnogaeth i’r sawl ag anableddau, pensiynwyr, neu gludiant cyhoeddus call. Dal i godi mae nifer y bobl sy’n defnyddio banciau bwyd. Mae Achub y Plant yn dweud fod 1 o bob 3 o blant yng nghymru yn byw mewn tlodi - yr uchaf o unrhyw un o genhedloedd y DG.
“Rywsut, rydyn yn dal i allu fforddio adnewyddu arfau niwclear a mwy o ryfeloedd, heb boeni o gwbl am y gost. Yn fy marn i, mae rhywbeth o’i le am hyn. Gwell o lawer fuasai gwario’r arian ar gyfleusterau newydd a gwell i’r cyhoedd fel ysbytai ac ysgolion.”
Ychwanegodd Ms Wood: “Mae taflegrau niwclear yn un o greiriau’r rhyfel oer. Nid ydynt yn gwneud dim i ymdrin â’r prif fygythiadau sy’n wynebu’r DG heddiw. Yn ôl y Ganolfan Gwarchod Seilwaith Cenedlaethol, y ddau brif fygythiad sy’n wynebu’r DG yw terfysgaeth ac ysbïo, sydd yn cynnwys seibr-droseddu.
“Nid yw taflegrau niwclear yn gwneud dim i wrthweithio’r bygythiadau hynny. Gallech hyd yn oed ddadlau eu bod yn gwneud y DG yn fwy o darged o’r ddau gyfeiriad hwnnw.
“Dyna pam yr oeddwn yn falch fod holl ASau Plaid Cymru wedi pleidleisio i wrthwynebu cael arfau niwclear newydd ac yr oeddwn yn siomedig gweld fod mwy na hanner yr ASau Llafur wedi cynnal breichiau’r Torïaid ar y mater hwn.”
Os ydych am ymuno â Phlaid Cymru, cliciwch y ddolen hon.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter