Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yw'r arweinydd cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi ei ffurflen dreth.
Penderfynnodd y gwleidydd sy'n byw yn y Rhondda wneud hyn yn sgil yr helynt a gododd yn achos y Prif Weinidog yn dilyn sgandal 'Papurau Panama' a'i gysylltiad ag arian a etifeddodd o hafan dreth. Gallwch weld ffurflen dreth Ms. Wood drwy glicio yma.
Dywedodd Ms. Wood, sy'n byw ym Mhenygraig, "Mae'n iawn bod Prif Weinidog y DU yn cael ei holi am ei drethi, yn enwedig pan oedd yn anfodlon dweud y gwir pan gafodd ei holi gyntaf. Bydd ei fethiant i fod yn agored am ei drethi yn arwain at bobl yn gofyn, 'beth sydd ganddo i'w guddio?"
"Does gen i ddim i'w guddio, ac er mwyn ceisio bod yn agored ac i hyrwyddo ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, rwyf fi, fel arweinydd plaid, wedi penderfynu cyhoeddi fy ffurflen dreth ar y cyfryngau cymdeithasol. Dwyf i ddim wedi gwneud hyn o'r blaen, ond teimlaf ei bod yn angenrheidiol yn dilyn digwyddiadau'r wythnos diwethaf.
"Mae lefel ymddiriedaeth mewn gwleidyddion a gwleidyddiaeth yn isel Rwy'n gobeithio na fydd yr helynt am y Prif Weinidog Torïaidd yn rhwystro pobl ymhellach rhag cymryd rhan yn y broses wleidyddol ar 5 Mai pan gynhelir etholiadau pwysig i Gymru.
"Byddwn yn pwyso ar bobl sydd wedi eu gwylltio gan y sgandal ddiweddaraf i gyfeirio eu dicter at bleidleisio ar 5 Mai gan taw dyna'r unig ffordd y gallwn beri'r newid y mae ei angen ar y wlad hon i wneud cynnydd."
Os ydych am newid yn y Rhondda, cefnogwch ymgyrch Leanne trwy glicio yma.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter