Mae AC y Rhondda wedi galw am “gamau cryf” yn erbyn unrhyw un sy’n cael ei ddal yn cynnau tanau mewn glaswellt yn ystod cyfnod y coronafirws.
Yr oedd Leanne Wood AC yn ymateb i’r newyddion dros y penwythnos fod criwiau o ddiffoddwyr tân wedi eu hanfod i nifer o leoliadau ar fynyddoedd yn y Rhondda i ddelio â thanau oedd wedi eu cynnau’n fwriadol.
Mewn neges i’r sawl a wnaeth hyn, dywedodd Leanne: “Rydych yn gweithredu yn eich erbyn eich hunain a’ch cymuned, y ffyliaid dwl.”
“Roedd yn ddychryn i mi weld lluniau o wahanol fannau ledled y Rhondda gyda thanau ar y mynyddoedd dros y penwythnos,” meddai Leanne.
“Mae rhywbeth mawr o’i le gyda phobl fyddai’n peryglu bywydau fel hyn. Pam fod y bobl hyn allan, hyd yn oed? Os cewch eich dal, rydych yn haeddu cael eich cosbi’n llym.
“Dyma’r ymddygiad gwrthgymdeithasol gwaethaf - rydych yn gweithredu yn eich erbyn eich hun a’ch cymuned eich hun, y ffyliaid dwl. Mae’n ddigon drwg rhoi glaswellt ar dân ar unrhyw adeg, ond mae gwneud hynny yn ystod pandemig byd-eang ar adeg pan ydym oll i fod yn aros yn ein cartrefi yn cynyddu’r peth i lefel uwch o fyrbwylltra a thwpdra.”
Ychwanegodd: “Rwy’n teimlo dros y timau o ddiffoddwyr tân sy’n gorfod ymdopi â hyn, mewn gwyntoedd cryfion hefyd, gyda phopeth arall yn mynd ymlaen. Wir, ddylen nhw ddim gorfod gwneud hyn.”
Os hoffech chi gefnogi Leanne a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter