Adroddiad Cefnogi Dioddefwyr Llifogydd am Ymchwiliad Cyhoeddus yn Adroddiad Plaid Cymru
Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd mewn adroddiad Plaid Cymru yn edrych ar effaith ddinistriol llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn dangos cefnogaeth lawn i ymchwiliad cyhoeddus annibynnol.
Darllenwch fwyLlafur yn Atal Ymchwiliad Annibynnol i’r Llifogydd – Leanne yn Holi ‘Beth ydych chi’n Guddio?’
Mae AS y Rhondda wedi condemnio gwleidyddion y Blaid Lafur yn RCT am wrthwynebu ymchwiliad annibynnol llawn dan arweiniad arbenigwyr i gyfres o lifogydd yn gynharach eleni.
Darllenwch fwyDatganiad gan Leanne Wood AS a Chynghorwyr Plaid Cymru y Rhondda
"Rydym yn siomedig gyda chanlyniadau’r adroddiad hwn, ond nid ydym wedi synnu. Mae’r bobl sydd wedi dioddef yn sgil y llifogydd eisiau atebion a datrys y broblem, ac nid yw’r adroddiad hwn yn rhoi’r naill na’r llall. Ni chafodd eu lleisiau eu clywed trwy gydol y broses hyd yma, ac y mae’r bobl a ddioddefodd yr effeithiau yn haeddu cael eu clywed.
Darllenwch fwyCartrefi’r Rhondda yn cael eu Taro gan Lifogydd eto
Wrth ymateb i’r newyddion fod cartrefi yn Nhreorci wedi dioddef llifogydd dros nos, dywedodd AS y Rhondda Leanne Wood: “Mae’n erchyll i’r sawl sydd wedi dioddef digwyddiad eto fyth o lifogydd yn y Rhondda eleni. Gorlifwyd cartrefi ar y Stryd Fawr yn Nhreorci eisoes, ac yr oedd rhai ond newydd orffen gwaith trwsio ac adnewyddu. Mae cartrefi mewn mannau eraill wedi eu taro hefyd.
Darllenwch fwyLeanne yn Derbyn Sicrwydd am Archwiliadau Safleoedd Lle bu Llifogydd
Mae Aelod Senedd y Rhondda wedi derbyn sicrwydd gan Dŵr Cymru eu bod wedi cynnal nifer o archwiliadau cyn y glaw trwm a ddisgwylir dros yr ychydig ddyddiau nesaf.
Darllenwch fwyLeanne yn Galw ar y Llywodraeth Lafur i Gychwyn Ymchwiliad i’r Llifogydd a Rhoi mwy o Gefnogaeth i Ddioddefwyr Llifogydd
Mae’r Llywodraeth Lafur wedi gwrthod ystyried ymchwiliad i’r trydydd tro mewn pedwar mis i rai o gymunedau’r Rhondda ddioddef llifogydd, yn dilyn cwestiynau gan Leanne Wood.
Darllenwch fwyPrif Weinidog yn Ymateb i Bryderon AC y Rhondda am Ddiogelwch Tipiau Glo
Mae AC y Rhondda wedi derbyn sicrwydd gan y Prif Weinidog fod mater diogelwch tipiau glo yn cael ei drin “fel mater o frys.”
Darllenwch fwyYr Ymateb i Lifogydd y Rhondda wedi Datgelu’r Gorau Mewn Pobl – Leanne
Mae AC y Rhondda wedi bod yn helpu trigolion i ymdopi â chanlyniadau llifogydd erchyll y penwythnos.
Darllenwch fwyLeanne yn Galw ar y Llywodraeth Lafur i Egluro’r Dryswch am Ymdrechion Ailgylchu
Mae AC y Rhondda wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i roi sicrwydd am ymdrechion ailgylchu wedi i honiadau godi fod gwastraff o Rondda Cynon Taf wedi ei weld wedi ei ddympio mewn jyngl yn Asia.
Darllenwch fwy