Wrth ymateb i’r newyddion bod Swyddfa Bost Tonypandy yn cau dros dro, dwedodd Rhondda AC Leanne Wood: “Mae hyn yn bryder ond rydw i wedi derbyn cadarnhad taw mesur dros dro yn unig yw cau’r Swyddfa bost. Datganodd y Swyddfa Bost eu bod nhw yn benderfynol o adfer gwasanaethau yn Nhonypandy cyn gynted â phosibl.
“Maent wedi gofyn i’r cwsmeriaid i aros gyda nhw yn y cyfamser ac i ddefnyddio gwasanaethau amgen eraill. Bydd fy Swyddfa yn cadw mewn cysylltiad agos gyda’r Swyddfa Bost am unrhyw ddiweddiaradau pellach ar y sefyllfa.
“Mae’n hollbwysig fod anghyfleustra yn cael ei leihau i gwsmeriaid ffyddlon Swyddfa Bost Tonypandy.”
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter