Mae AC y Rhondda wedi awgrymu y gallai Cymru basio deddfwriaeth i wahardd elwa mewn addysg er mwyn osgoi ecsploetio athrawon llanw.
Yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd, dywedodd Leanne Wood y gallai Cymru ddilyn arweiniad gwledydd fel Denmarc trwy fabwysiadu’r gyfraith.
Bu athrawon llanw yng Nghymru yn ymgyrchu i wella eu cyflogau a’u hamodau sydd wedi dioddef dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd swm yr arian mae asiantaethau dysgu yn gadw’n ôl o ysgolion.
Mae asiantaethau preifat wedi cynyddu bedair gwaith yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae rhai athrawon yn cael cyn lleied â £85 y dydd, ac oherwydd eu bod yn hunangyflogedig, nid ydynt yn derbyn unrhyw dâl gwyliau na buddion pensiwn. Tybir bod rhai o’r asiantaethau dysgu yn cymryd cyfran o hyd at 30% o’r arian a delir gan ysgolion.
Yn ystod y sesiwn lawn, dywedodd Ms Wood wrth y Prif Weinidog: “Fe fyddwch yn ymwybodol o’r ddadl am athrawon llanw, a bod rhai o’n hathrawon mwyaf profiadol yn ennill cyflogau gwael oherwydd y sefyllfa lle mae asiantaethau yn cymryd cyfran fawr o’r tâl sydd ar gael iddynt o ysgolion.
“Yn Nenmarc, mae gwneud elw allan o addysg yn erbyn y gyfraith, Brif Weinidog. Byddai deddfwriaeth felly yma yn datrys y broblem ynghylch athrawon llanw. Fel mate ro egwyddor, fuasech chi yn agored i ddeddfwriaeth o’r fath yma yng Nghymru?”
Yn ei ateb, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn meddwl fod deddfwriaeth o’r fath yn “gam rhy bell, efallai.”
Ychwanegodd: “Pan welwn dâl ac amodau wedi eu datganoli, bydd cyfle wedyn i edrych eto i weld a yw’r trefniadau presennol ar gyfer athrawon llanw yn ddigonol.”
Os ydych chi'n cytuno â Leanne a Phlaid Cymru, beth am ymuno â ni? Gallwch chi wneud hynny trwy glicio ar y ddolen hon.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter