Mae’r Aelod Senedd dros y Rhondda wedi galw am weithredu brys i helpu pobl yn ei hetholaeth sydd wedi dioddef llifogydd eto fyth eleni.
Mae Leanne Wood hefyd wedi galw am ymchwiliad brys i ddarganfod pam y cafwyd llifogydd mewn cartrefi mor sydyn, a hynny wedi cyfnod hir o heulwen. Dywedodd llawer o drigolion mewn cymunedau a ddioddefodd fel Pentre fod y draeniau yn dal yn llawn llaid nad oedd wedi ei glirio ers y llifogydd diwethaf yn gynharach eleni.
Dywedodd Ms Wood AS: “Mae pobl yn ddig ac yn rhwystredig fod hyn wedi digwydd ddwywaith eisoes eleni. Mae rhai aelwydydd wedi dioddef llifogydd yn amlach na hynny. Rwy’n rhannu’r dicter a’r rhwystredigaeth hwnnw – dyw e ddim yn dderbyniol.
“Yr hyn sydd ei angen yw help ar frys gan y gwahanol awdurdodau i atal llifogydd pellach. Mae angen mynd â bagiau tywod i bob cartref sydd mewn perygl o fwy o lifogydd trwy gydol y cyfnod hwn o law trwm - ac nid oedd y rhain ar gael gan y cyngor yn syth.
“Ddylai’r cyfrifoldeb ddim disgyn ar iardiau adeiladwyr i ddarparu’r tywod oedd ei angen i greu amddiffynfa rhag llifogydd – ond dyna ddigwyddodd yn y 12 awr hanfodol cyntaf pan ddaeth y glaw y tro hwn. Hefyd, mae angen glanhau’r draeniau fel mater o frys, gan mai dyma a achosodd y llifogydd mewn llawer man.
“Yn ail, mae arnom angen ymchwiliad i weld pam fod yr ardaloedd hyn mor agored i lifogydd. Dylai’r gwaith hwn fod wedi digwydd eisoes; hyd yn oed gyda’r cyfyngiadau oherwydd pandemig Covid-19.
“Mae’n siomedig nad yw’r gwaith hwn wedi ei wneud eto, ond mae’r hyn ddigwyddodd dros y 24 awr ddiwethaf yn dangos yn glir na ddylid oedi ymhellach os ydym am atal mwy o lifogydd yng nghymunedau’r Rhondda - mae’n amlwg fod problem fawr yma.”
Os ydych chi'n cytuno bod angen cynnal ymchwiliad i mewn i'r llifogydd yn y Rhondda, arwyddwch y ddeiseb yma.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter