Wrth ymateb i’r newyddion fod y streic yn swyddfa ddosbarthu Ferndale wedi dod i ben, dywedodd AC y Rhondda Leanne Wood: “Rwy’n falch fod uwch-reolwyr y Post Brenhinol a’r gweithwyr yn swyddfa ddosbarthu Ferndale wedi dod i gytundeb fydd yn caniatáu ail-ddechrau gweithio yn syth.
"Dyw penderfyniad i atal eich llafur fyth yn cael ei gymryd yn ddifeddwl, ac yr wyf yn deall nad yw’r staff ymroddedig a gweithgar yn swyddfa Ferndale erioed wedi cymryd camau fel hyn o’r blaen.
“Cefais sicrwydd y bydd y staff yn gweithio i glirio’r post sydd wedi cronni yn ystod yr anghydfod hwn ac y bydd popeth yn ôl i drefn yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf.”
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter