Yn dilyn sylwadau a wnaed gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ystod rhaglen Question Time neithiwr, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:
“Nid yn unig mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwyrdroi hanes drwy daflu baw a gwneud ensyniadau, mae hefyd yn gwadu’r rhethreg niweidiol sy’n britho ei blaid Geidwadol ei hun ar hyn o bryd.
“Mae Plaid Cymru yn blaid eangfrydig a rhyngwladol. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb yma, o ble bynnag y maent wedi dod yn wreiddiol. Rydym yn gweithio’n galed tuag at gydraddoldeb, yn ceisio rhoi terfyn ar raniadau ac mae gennym hanes hir o dathlu amrywiaeth. Mae gennym fwy o ddiddordeb mewn adeiladu pontydd na waliau.
“Ers y refferendwm Ewropeaidd rydym wedi herio sefydliad San Steffan am symud i’r dde, ac am yr hiliaeth bob-dydd sy’n dod yn fwyfwy cyffredin. Rydym wedi amddiffyn a chefnogi’r holl bobl sydd wedi dod yma i fyw o dramor, yn enwedig y rhai sydd wedi cyfrannu cymaint i’n gwasanaethau cyhoeddus. Hoffwn ddiolch iddynt unwaith eto heddiw.
“Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn euog o bedlera’r union fath o nonsense sy’n magu gelyniaeth a throi phobl yn erbyn ei gilydd. Nid dyma’r fath o sylwadau fyddai rhywun yn eu disgwyl gan weinidog llywodraeth. Pe bai ganddo owns o onestrwydd byddai’n tynnu ei eiriau yn ôl.”
Os ydych chi eisiau cefnogi Plaid Cymru cliciwch ar y ddolen hon.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter