Ymwelodd Leanne Wood â dau fusnes lleol yn rhan o ymgyrch i annog mwy o bobl i siopa'n lleol.
Galwodd AC y Rhondda heibio i'r Bike Doctor a'r Deli yn y Porth fel rhan o'r Sadwrn Busnesau Bychain blynyddol a hyrwyddir gan Ffederasiwn y Busnesau Bychain (FfBB). Yng Nghymru, galwodd y Ffederasiwn ar bobl i wario o leiaf £10 mewn busnesau bychain annibynnol ar y diwrnod ei hun.
Yn ystod yr ymweliadau, ymunodd ymgeiswyr Plaid Cymru ward y Porth, Alun Cox a Julie Williams â Leanne.
Dywedodd Ms. Wood, "Mae'n braf gweld y ddau fusnes hyn yn llwyddo yng nghanol y dref. Er eu bod yn wahanol o ran y cynnyrch a werthir, mae'r Bike Doctor a'r Deli yn un yn eu hymrwymiad i gynnyrch o safon ac mewn darparu gwasanaeth ardderchog i'w cwsmeriaid.
Maen nhw'n enghraifft dda o'r hyn y gall busnesau bychain ei gynnig, yn wahanol i werthwyr mwy. Rwy'n annog pawb sydd am weld canol ein trefi'n goroesi ac yn ffynnu i gefnogi eu busnesau lleol a siopa'n lleol nawr cyn y Nadolig ac wedyn.
"Nid ond er lles y busnesau y gofynnaf hyn, ond hefyd er mwyn y staff a gyflogir ganddynt a'r economi leol. Dangosodd ymchwil fod rhwng 50c - 70c o bob £1 a werir mewn busnesau annibynnol lleol yn cylchdroi nôl i mewn i'r economi leol honno. Am bob punt a werir mewn archfarchnadoedd ar gyrion trefi ac ar-lein, dim ond 5c sy'n dychwelyd i'r economi leol.
Dyna pam mae Plaid Cymru'n hapus i gefnogi Sadwrn y Busnesau Bychain, gan fod gwella ein heconomi'n flaenoriaeth."
Os ydych am gefnogi Plaid Cymru yn yr etholiadau lleol, cliciwch y cysylltydd yma.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter