Diweddariad am y datganiad isod gan Drenau Arriva Cymru
Diolch i’r platfform newydd ar Gaerdydd Canolog, a gwelliannau signal gan Network Rail, gellir ychwanegu 104 o seddi i’r gwasanaeth 06.47 o Dreherbert i Gaerdydd.
Nid cerbydau newydd yw’r rhain ond cerbydau sydd wedi cael eu cymryd o lefydd eraill ar rwydwaith Arriva. Mae symud cerbydau cyfredol o amgylch i gynyddu’r capasiti ar gyfer y cymoedd i’w groesawu, ond dyw e dal ddim yn ddigon da. Ateb dros dro yw hwn yn unig, sy’n lleihau’r capasiti mewn mannau eraill, megis ar wasanaethau Penarth a’r Barri. Mae angen i ni weld cynnydd go iawn yn nifer y cerbydau a’r gwasanaethau yng Nghymru.
Mae’n dda i weld cynnydd, ond ryn ni’n dal i aros am y gwasanaeth ryn ni’n ei haeddu ac fe fydda i’n parhau i wthio am welliannau pellach.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter