Mae Aelod Senedd y Rhondda wedi condemnio’r Blaid Lafur yn hallt am bleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru fyddai wedi rhoi prydau ysgol am ddim i bobl plentyn y mae ei deulu yn derbyn Credyd Cynhwysol.
Pleidleisiodd aelodau Llafur yn erbyn gwelliant Plaid Cymru i gyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf yn ystod dadl yn y Senedd yr wythnos hon. Dengys ffigyrau fod 70,000 o blant sy’n byw islaw lefel tlodi y DG yng Nghymru heb fod yn gymwys ar hyn o bryd am brydau ysgol am ddim.
Dywedodd Leanne Wood, sef llefarydd y blaid ar Gyfiawnder a Chydraddoldeb, y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn ymrwymo i egwyddor prydau ysgol am ddim i bawb – gan gychwyn gydag ehangu’r cymhwyster i blant ar bob aelwyd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.
Dywedodd Leanne: “Dan Lywodraeth Lafur, gan Gymru ar hyn o bryd y mae’r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim sydd leiaf hael yn y DG. Mae hyn yn sgandal o’r mwyaf ac yn warth cenedlaethol.
“Gyda’n gwelliant i’r gyllideb yr wythnos hon, rhoddodd Plaid Cymru gyfle i Lafur unioni’r cam hwn, ond ei wrthod yn ddiymdroi a wnaethon nhw.
“Mae hyn yn siomedig, ac y mae’n golygu mwy o galedi i lawer o deuluoedd yn y Rhondda sy’n cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd ac a allasai fod wedi gwneud gyda’r help hwn.
“Gyda’r cynllun rhannu bwyd a sefydlwyd gennyf, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol yr angen sydd yna yn ein cymunedau, ac y mae’n sobreiddiol. Hoffwn i Aelodau Llafur y Senedd a’u hymgeiswyr esbonio i bobl y Rhondda pam eu bod yn gwrthod ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim.”
Os ydych eisiau helpu i ail-ethol Leanne yn etholiadau’r Senedd eleni, cliciwch ar y ddolen hon.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter