Mae AC y Rhondda wedi sicrhau ymrwymiad gan y Llywodraeth Lafur yng Nghymru i barhau ag Adran Frys a Damweiniau dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn “y dyfodol.”
Yr oedd Leanne Wood yn holi’r Prif Weinidog Llafur yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru wedi i nifer o gleifion a staff ddod ati gyda phryderon ynghylch symud adran frys o ysbyty dosbarth cyffredinol Llantrisant.
Wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Llafur am y mater, penderfynodd Ms Wood fynd at Mark Drakeford yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.
Dywedodd: “Cyn belled ag yr wyf i a miloedd o bobl eraill sy’n byw yn y Rhondda yn y cwestiwn, y gwasanaeth gorau i ni fyddai cael adran frys dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn gweithredu 24 awr y dydd o Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
“Fel y gwelsom gyda chanoli gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, nid yw hyn yn ateb i broblemau dyfnion GIG Cymru, sef diffyg staff a gorweithio’r staff sydd yno eisoes.
“Gyda chanoli gwasanaethau meddygaeth plant wedi ei atal dros dro, onid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i’r arbrawf Llafur hwn nawr ddod i ben? Dywedwyd wrthyf yr wythnos ddiwethaf mai adeg datganiad gan y Gweinidog Iechyd ar 2 Gorffennaf am adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau gofal critigol fyddai’r amser priodol i grybwyll dyfodol gwasanaethau brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
“Mae arna’i ofn fy mod i a phobl y Rhondda, heb sôn am staff pryderus sydd wedi dod ataf, eisiau sicrwydd – a nid yn unig sicrwydd, ond gwarant – cyn hynny y bydd ein hadran frys agosaf yn aros lle mae, ac na fydd yn mynd yr un ffordd â’r adran famolaeth. A wnewch chi yn awr roi’r sicrwydd hwnnw i’m hetholwyr yn y Rhondda?”
Atebodd y Prif Weinidog: “Diolch i’r Aelod am hynny. Yr wyf wedi gweld ei llythyr at y Gweinidog Iechyd a gallaf ddweud hyn wrth yr Aelod: n i symudwyd unrhyw feddygon ymgynghorol o adran frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac ni symudwyd swyddi felly o’r ysbyty ar unrhyw adeg. Ers pedair swydd meddyg ymgynghorol cyfatebol llawn-amser yn adran frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
“Pan fo pobl yn symud ymlaen, ac y mae pobl yn cael swyddi newydd ac yn dod ymlaen yn eu gyrfaoedd, fe lenwir y swyddi hynny. Y gobaith yw y daw swyddi llawn amser yn eu lle, ac y mae nifer eisoes wedi mynegi diddordeb yn y swyddi gwag yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac y maent hyn cael eu hystyried gan y Bwrdd Iechyd.
“Os bydd raid i ni lenwi’r swydd dros dro gyda phenodiadau locwm, dyna a wnawn. Dyna ddyfodol yr adran frys, ac yr wyf yn falch iawn o gael y cyfle i ddweud hynny’n swyddogol yma y prynhawn yma.”
Wedi hynny, ychwanegodd Leanne: “Rwy’n croesawu’r sicrwydd hwn gan y Prif Weinidog Llafur. Ni wnaeth warantu presenoldeb parhaol adran frys dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn y tymor hir, felly byddaf yn parhau i gadw llygad ar y sefyllfa ac ymateb yn unol â hynny er mwyn gwneud yr hyn a allaf i sicrhau bod yr ysbyty sy’n gwasanaethu’r Rhondda yn parhau i fod â meddygon ymgynghorol, yn yr adran frys.
“Hoffwn ddiolch i bobl y Rhondda ac i staff yr ysbyty ddaeth ataf dros yr wythnosau diwethaf i fynegi eu pryderon am ddyfodol yr ysbyty. Cafodd eu hymyriadau effaith gadarnhaol.”
Os ydych chi am gefnogi Leanne a Phlaid Cymru, cliciwch ar y ddolen ganlynol.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter