Mae Leanne Wood wedi annog y Llywodraeth Lafur yng Nghymru i weithredu ar frys ar ôl i brinder staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gael ei ddatgelu.
Dywedodd Aelod Cynulliad y Rhondda nad oedd y problemau staffio a nodwyd yng Nghwm Taf yn unigryw, ond eu bod yn hytrach yn rhan o broblem ar draws pob un bwrdd iechyd yng Nghymru. Ychwanegodd fod hyn yn dangos gwirionedd addewid
Plaid Cymru adeg etholiad y Cynulliad i recriwtio 1,000 o feddyg yn ychwanegol a 5,000 o nyrsys i’r GIG yng Nghymru.
Yr oedd y sylwadau yn dilyn cyhoeddi Cofrestr Risg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Mae cofrestri risg yn cael eu cynhyrchu gan bob bwrdd iechyd fel gofyniad cyfreithiol, ac y maent yn amlygu’r risgiau mwyaf sylweddol i weithrediadau beunyddiol bwrdd iechyd lleol. Fel rheol maent yn defnyddio system o oleuadau traffig i gategoreiddio risgiau o ran eu tebygolrwydd a’u difrifoldeb.
Dywed Cofrestr Risg Cwm Taf: “Mae 23 risg eithafol a 9 risg uchel. Mae rhan fwyaf o risgiau yn gysylltiedig â phrinder gweithlu a’u heffaith, sydd yn cynnwys prinder o feddygon teulu a chynaliadwyedd gofal sylfaenol.”
Ar hyn o bryd, mae gan bob bwrdd iechyd brinder staff wedi ei amlygu fel risg ‘goch’ i ddiogelwch a chynaliadwyedd gwasanaethau.
Meddai arweinydd Plaid Cymru, sy’n byw ym Mhenygraig: “Mae’r cofrestri risg hyn yn profi y tu hwnt i bob amheuaeth fod argyfwng staffio yn GIG Cymru.
“Mae’n profi’r hyn y bu Plaid Cymru yn galw amdano ers llawer blwyddyn nawr, sef 1,000 o feddygon yn ychwanegol a 5,000 o nyrsys yn ychwanegol. Nid yw’r status quo yn ddiogel na cyn gynaliadwy i gleifion, nac i’r staff sydd, i bob golwg, yn gorfod gwneud mwy a mwy i gau bylchau.
“Bu Llafur yn gofalu am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ers gwawr datganoli ym 1999 felly mae’n rhaid iddynt ysgwyddo’r cyfrifoldeb am y methiannau hyn.
“Bu eu cynllunio gweithlu yn drychinebus. Does fawr ddim arwydd eu bod yn gwella, naill ai yn ôl eu penderfyniad i ganslo cynlluniau am ysgol feddygol newydd yng Nghymru yn gynharach eleni.
“Fel gwrthblaid, bydd Plaid Cymru yn pwyso ar y Llywodraeth Lafur ddifflach hon i fynd i’r afael o’r diwedd gyda’r prinder staffio yn GIG Cymru fel blaenoriaeth.
“Rydym wëid gweld yn y Rhondda beth mae prinder meddygon teulu wedi golygu i rai meddygfeydd lleol a’r gallu i gael apwyntiadau amserol. Mae cleifion - a staff ein GIG - yn haeddu gwell.”
Os ydych yn cytuno â'r Leanne, cliciwch y ddolen hon. Diolch.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter