Mae Leanne Wood wedi llongyfarch Cymdeithas Twnnel y Rhondda wedi iddynt ennill grant o bron i £100,000.
Bydd y gymdeithas, sy’n gweithio tuag at ail-agor yr hen dwnnel rheilffordd sy’n cysylltu’r Rhondda Fawr a Chwm Afan i’w ddefnyddio fel llwybr beicio a cherdded, yn defnyddio’r arian i dalu am archwiliad manwl.
Dyfarnwyd yr arian gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd. Petai’n cael ei ail-agor, y twnnel hwn, sydd bron i ddwy filltir o hyd, fyddai’r twnnel beicio a cherdded hwyaf yn Ewrop a’r ail hwyaf yn y byd.
Os bydd yr archwiliad yn profi bod twnnel yn gyfan ac yn ddiogel, bydd y gymdeithas wedyn yn lobio Llywodraeth Cymru i ysgwyddo’r cyfrifoldeb am y twnnel.
Meddai Leanne Wood AC, sydd hefyd yn aelod o Gymdeithas Twnnel y Rhondda: “Dyma newyddion gwych i’r prosiect pwysig hwn. Bydd canlyniadau’r arolwg yn pennu a yw’r twnnel yn ddiogel ai peidio, ac os bydd y newyddion yn gadarnhaol, bydd yn caniatáu bwrw ymlaen i’r cam nesaf, sef i Lywodraeth Cymru o’r diwedd gymryd perchenogaeth oddi ar Highways England.
“Hyd yma, siomedig a di-ffrwt fu ymateb Llywodraeth Cymru i’r prosiect arloesol hwn. Os cawn ni brawf pendant fod y twnnel hwn yn ddiogel, yna fydd dim mwy o esgusodion y gall Gweinidogion y Llywodraeth eu defnyddio i oedi gyda chwestiwn hanfodol perchenogaeth.
“Mae cymdeithas y twnnel wedi ymdrechu’n lew i gyrraedd y cam hwn, felly maent yn haeddu ein cefnogaeth lwyr.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter