Mae AC y Rhondda wedi cwrdd â'i chyfatebydd yn Senedd Ieuenctid Cymru.
Gwnaeth Leanne Wood wahodd Alys Hall i'w swyddfa etholaethol yn y Porth i’w llongyfarch ar ôl cael ei hethol yn etholaeth y Rhondda i’r Senedd Ieuenctid Cymru gyntaf. Yn ogystal ag astudio ar gyfer ei TGAU yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda , mae Alys yn bwriadu ymgyrchu am wella cefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc a hawliau'r gymuned LGBT ymhlith pethau eraill.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Leanne: "Roeddwn i eisiau llongyfarch Alys am gael ei hethol fel cynrychiolydd cyntaf y Rhondda yn Senedd Ieuenctid Cymru. Mae hyn yn dipyn o gyflawniad; nid dim ond bod yr etholiad hwn yn un hanesyddol ond hefyd oherwydd bod y gystadleuaeth wedi bod yn un anodd.
"O’n i’n falch iawn o weld safon I Hel yr ymgeiswyr ar draws Cymru. Mae hyn yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol ein gwlad a'n democratiaeth. Mae ymgysylltu â phobl ifanc yn holl bwysig ac mae hon yn fenter arbennig rwy’n gobeithio bydd yn parhau’n hirdymor. "
Ychwanegodd Leanne: "Yn y cyfamser, hoffwn ddymuno'r gorau i Alys am ei thymor fel cynrychiolydd y Rhondda yn Senedd Ieuenctid Cymru. Mae hi'n glod i'w theulu a'i hysgol - rwy'n siŵr eu bod nhw’n falch iawn ohoni. "
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter