"Dros yr wythnos diwethaf derbyniais wybodaeth sy'n dangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais, yn ffurfiol neu yn anffurfiol, i gymryd meddiant o Dwnnel Cwm Rhondda.
"Daeth y wybodaeth oddi wrth David Brewer, cyfarwyddwr yn Adran Cyflawni a Datblygu'r Rhwydwaith, Priffyrdd Lloegr, y corff sydd yn berchen ar y twnnel ar hyn o bryd.
"Rwy'n ddig bod y prosiect pwysig hwn i adfywio cymoedd Rhondda ac Afan wedi colli momentwm oherwydd methiant Llywodraeth Cymru i ofyn i berchnogaeth y twnnel gael ei throsglwyddo.
"Rhwystrwyd ymdrechion Cymdeithas Twnnel Cwm Rhondda i gael grantiau i hybu ailagor y twnnel yn ystod y misoedd diwethaf oherwyth ansicrwydd am y berchnogaeth. Mae darganfod nawr na wnaeth Llywodraeth Cymru unrhyw ymholiadau, yn ffurfiol neu yn anffurfiol, i Briffyrdd Lloegr yn syfrdanol.
"Yr hyn sy'n gwneud pethau'n waeth yw'r ffaith bod yn eglur o'r ateb a gefais gan Briffyrdd Lloegr eu bod yn hapus iawn i drosglwyddo rheolaeth Twnnel Cwm Rhondda i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, allan nhw ddim gwneud hyn nes iddynt ddrebyn cais.
"Er 'mod i'n rhannu dicter aelodau Cymdeithas Twnnel Cwm Rhondda am y sefyllfa drist hon, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i unioni'r cam ar fyrder trwy gyflwyno cais i Briffyrdd Lloegr.
"Yn barod, collwyd gormod o amser a momentwm trwy ddiffyg gweithredu - rhaid iddynt gymryd cyfrifoldeb a gwneud yr hyn y dylid bod wedi ei wneud fisoedd yn ôl."
Os ydych chi eisiau cefnogi Leanne, cliciwch y ddolen hon.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter