Mae Leanne Wood wedi ymrwymo i barhau i ymgyrchu dros llwybrau beicio newydd i’r Rhondda.
Roedd Aelod Cynulliad y Rhondda yn siarad wedi iddi ysgrifennu at y Cyngor a Llywodraeth Cymru i ofyn iddynt amlinellu eu cynlluniau ar gyfer y rhwydwaith llwybrau cerdded a beicio yn y Rhondda Fach a’r Rhondda Fawr.
Wrth ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, gofynnodd Leanne am gael llenwi’r bylchau amlwg yn y rhwydwaith o lwybrau beicio yn y Rhondda er mwyn annog ymarfer corff a lleihau allyriadau o geir.
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, ei fod wedi rhoi £3.2 miliwn yng nghyllideb eleni i Gyngor Bwrdeisdref Sirol Rhondda Cynon Taf, gan ddweud hefyd ei fod yn ‘hyderus y gwelwn, dros y blynyddoedd nesaf, y gwelliannau rydych yn sôn amdanynt’.
Dywedodd Leanne ei bod yn bwriadu cyhoeddi adroddiad gan Sustrans yn y flwyddyn newydd, y comisiynwyd ganddi, fydd yn amlygu y ffordd y gall y Rhondda ddatblygu’r rhwydwaith beicio. Byddwn yn adeiladu ar y llwyddiannau amlwg fel Barry Sidings a phrosiect Cwm Cycling Rhondda.
Mae’r adroddiad yn dilyn cyfarfod hynod lwyddiannus drefnodd Leanne y llynedd, lle daeth nifer o grwpiau at eu gilydd, rhai â diddordeb mewn beicio ac chyrff eraill wedyn sydd â’r gallu i ariannu prosiectau beicio. Dywedodd Leanne “Gall darpariaeth beicio fod gymaint yn well yn y Rhondda. Wrth edrych ar y rhwydweithiau mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, rydym yn bell ar ei hôl hi. Mae gwella’r rhydwaith yn allweddol os ydym am guro gordewdra, lleihau llygredd a hyd yn oed denu mwy o ymwelwyr i’r Rhondda.
“Os ydi Twnel y Rhondda, pan agoriff, am gyrraedd ei lawn botensial fel llwybr i bobl leol, ynghyd â denu twristiaid beicio, yna mae llwybr ar hyd y Fawr yn hanfodol.
“Gyda chymaint o bobl a grwpiau’n dod ynghyd, a gyda arian yn y gyllideb i wireddu’r cynlluniau, byddaf yn gweiddu’n groch dros well ddarpariaeth i’r Rhondda a beicwyr. Mwy yn y man!"
Os ydych chi am gefnogi Leanne a Phlaid Cymru, cliciwch ar y ddolen ganlynol.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter