Mae Leanne Wood, Aelod Cynulliad y Rhondda, wedi dymuno pob lwc i focsiwr ifanc sydd newydd droi yn broffesiynol.
Mae'r bocsiwr amatur addurnedig, Rhys Edwards, wedi penderfynu dilyn ôl traed nifer fawr o baffwyr llwyddiannus o'r Rhondda gan symud i’r gêm broffesiynol.
Bydd Rhys, 19, o Benygraig yn ymuno â'r hyfforddwr a cyn bocsiwr enwog Gary Lockett yn ei gampfa yng Nghaerdydd.
Mae Rhys wedi mwynhau gyrfa nodedig fel bocsiwr amatur ar ôl cael ei ddewis i gynrychioli Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn y Bahamas yr haf diwethaf. Mae hefyd wedi ennill teitl ‘pwysau ysgafn’ Prydain o dan 19 oed ym mhencampwriaeth Thribiwnlys Prydain Iau ac Ieuenctid 2017 yn erbyn gwrthwynebwyr hŷn a mwy profiadol ar ôl iddo droi’n 17.
Meddai Ms Wood, sy'n adnabod teulu Rhys yn dda, "Rwyf wedi dilyn bocsio amatur Rhys am gwpwl o flynyddoedd nawr. Mae ei sgiliau yn y cylch, ynghyd ac egwyddor o waith caled arbennig, wedi ennill nifer o deitlau ac wedi ei gymryd e’ ar draws y byd.
"Mae'n enghraifft wych o'r hyn y gallwch ei gyflawni gyda llawer o waith caled ac ysbryd penderfynol. Mae’n wedi hedfan baner y Rhondda a Chymru. Rwy'n siŵr, gyda chefnogaeth ei deulu agos, bydd hwn yn parhau yn y gêm broffesiynol.
"Rwy'n dymuno'r gorau iddo am y dyfodol a byddai’n parhau i fonitro ei yrfa."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter