Mae Leanne Wood wedi gofyn i’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru ymddiheuro i gymudwyr am berfformiad gwael y fasnachfraint rheilffyrdd newydd.
Ymosododd AC y Rhondda ar Arweinydd Llafur y Tŷ ynghylch sesiwn lawn danllyd yr wythnos hon. Mae Ms Wood, sy’n defnyddio rheilffyrdd y Cymoedd i gymudo rhwng ei chartref ym Mhenygraig a Bae Caerdydd, ei hun wedi ei dal yng nghanol yr oedi a’r canslo mynych fu’n bla ar fis cyntaf gweithredu Trafnidiaeth i Gymru.
Yn ystod ei chwestiwn, cyhuddodd Leanne hefyd y Prif Weinidog Llafur o wadu maint y broblem y mae pobl yng Nghymru yn wynebu wrth deithio ar y trên.
Dywedodd: “Fe hoffwn weld y Llywodraeth yn ymddiheuro. Rydym eisoes wedi clywed y prynhawn yma fod gwasanaethau rheilffyrdd wedi gwaethygu ers i’r fasnachfraint newydd gymryd drosodd, ac y mae’r cwmni wedi ymddiheuro’n llawn i’w cwsmeriaid heddiw.
“Er mai eich Llywodraeth chi sy’n gyfrifol am hyn, chawsom ni ddim ymddiheuriad o’r fath gan y Prif Weinidog heddiw. Mae fel petai yn gwadu popeth o hyd.
“Y llinell a achosodd fwyaf o bryder yn ymddiheuriad y cwmni oedd yr un ynghylch y bysus ychwanegol y maent yn eu darparu, gan ddweud, 'Bydd hyn yn parhau cyhyd ag y bydd angen.' Mae gwir broblemau iechyd a diogelwch yma’n awr, ac all hyn ddim parhau.
“Felly mae arnom angen datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet fel mater o frys i ddweud pa gamau ychwanegol y gall eu cymryd i liniaru’r problemau hyn. Dyw cwsmeriaid ddim yn barod i oddef mwy.”
Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Tŷ, Julie James AC: “O ran gwasanaethau rheilffordd, rhoddodd y Prif Weinidog, mewn ateb i Darren Millar, ddarlun go dda o lle’r ydym o ran gwasanaethau rheilffordd, Llywydd, ac nid wy’n meddwl fod angen dim ychwanegol gen i.”
Os ydych chi am gefnogi Leanne a Phlaid Cymru, cliciwch ar y ddolen ganlynol.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter