Mae AC y Rhondda wedi galw ar y Llywodraeth Lafur yng Nghymru i ddwyn y cyhoedd i mewn yn ystod proses y fasnachfraint i benderfynu pwy fydd yn rhedeg gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.
Dywedodd Leanne Wood AC y dylai’r bobl sy’n defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd bob dydd gael cyfle i ddadansoddi a chynnig syniadau am sut y gallai’r cwmni rheilffyrdd nesaf yng Nghymru gynnig gwell amodau i deithwyr ar y rheilffyrdd.
Datgelodd yr Arolwg Cenedlaethol o Deithwyr Rheilffyrdd y mis diwethaf fod boddhad teithwyr Trenau Arriva Cymru â’u gwasanaeth wedi cwympo mewn meysydd megis cyfleusterau prynu tocynnau a chyflwr y trenau.
Yn y sesiwn lawn, dywedodd Leanne wrth Ken Skates – yr Ysgrifennydd Cabinet Llafur dros yr Economi a Thrafnidiaeth – y gallai gwell craffu ar ddogfennau’r tendr arwain at fwy o graffu ac osgoi rhai o gamgymeriadau’r fasnachfraint ddiwethaf.
Dywedodd: “Mae’n ddirgelwch i mi pam eich bod yn cynnal y broses o dendro am y fasnachfraint dan y fath len o gyfrinachedd. Yn wahanol i Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DG a Transport Scotland, yr ydych yn gwrthod cyhoeddi dogfennau’r gwahoddiad i dendro a roddwyd i’r bidwyr.
“Petaech yn cyhoeddi’r dogfennau hynny, gallai pobl yng Nghymru—y bobl sy’n cael eu llwytho ar y gwasanaethau trên hynny bob dydd—gael cyfle i ddadansoddi’r meini prawf a chynnig syniadau am ffyrdd i’w gwella. Gellir rhoi’r bai am gamgymeriadau’r fasnachfraint rheilffyrdd ddiwethaf i Gymru wrth ddrws corff hyd-braich o San Steffan.
“Fel un sy’n teithio’n rheolaidd ar lein y Cymoedd i lawr o’r Rhondda, dyw hi ddim yn syndod i mi fod boddhad cwsmeriaid â gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru wedi gostwng. Mae’r amodau yn aml yn warthus.
“Os na fydd pethau’n gwella y tro hwn, fydd dim lle i chi na’ch cydweithwyr yn y Cabinet Llafur i guddio. Pam na allwch chi gyhoeddi dogfennau’r fasnachfraint, dwyn pobl i mewn, bod yn agored i well craffu er mwyn cyflwyno gwell masnachfraint rheilffyrdd fydd yn gweithio i bawb? Beth ydych chi’n ei ofni?”
Yn ei ateb, honnodd Mr Skates AM y gallai cyhoeddi dogfennau’r tendr “beryglu’r holl broses gaffael gystadleuol.”
Os ydych yn cytuno â Leanne, beth am ymwneud â Phlaid Cymru trwy glicio ar y ddolen hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter