Hybu Economi Cymru a Chwmnïau Bychain Trwy Gaffael Cyhoeddus, yw Anogaeth Leanne

MH_050716_Plaid_Cymru_102.JPG

Mae Leanne Wood wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i greu maes chwarae gwastad i fusnesau bach.

Gwnaeth AC y Rhondda y pwynt wrth siarad am y broses gaffael gyhoeddus gymhleth sydd yn aml yn ffafrio cwmnïau mwy yn ystod y broses fidio am gontractau yn y sector cyhoeddus. Yn ddiweddar, daeth cwmni yn y Rhondda i gysylltiad â Leanne wedi iddynt golli dau gontract mawr gyda Llywodraeth Cymru i gwmniau mwy o lawer sydd â’u pencadlys y tu allan i Gymru.

Am bob 1% a werir trwy gaffael lleol, mae modd creu hyd at 2,000 o swyddi yn ychwanegol. Mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â chanhedloedd eraill – megis yr Alban – pan ddaw’n fater o ddenfyddio cwmnïau lleol ar gyfer gwaith yn y sector cyhoeddus.

Yn ystod cwestiynau adeg y sesiwn lawn i Mark Drakeford AC, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid, dywedodd Leanne:  “Weinidog, chi sydd yng ngofal y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ac fe wyddoch o ohebiaeth flaenorol fod gen i bryderon am y ffordd y gall cwmnïau mwy drafod a sgorio’n uwch yn y broses o dendro am gaffael yn haws o lawer na’r cwmnïau llai sydd heb adran gaffael unswydd fel eu cyfoedion mwy.

“Fe roddais enghraifft benodol i chi am yr effaith a gafodd hyn ar gwmni yn y Rhondda, ac y mae hynny’n golygu fod arian wedi gollwng allan o’n hetholaeth yn awr ac wedi mynd i gwmni y tu allan i Gymru, sydd yn amlwg am gael effaith ar swyddi lleol a busnesau eraill hefyd.

“Pa bwysau allwch chi eu defnyddio yn eich Llywodraeth i sicrhau maes chwarae gwastad i bob bunses, mawr neu fach, ym mater y broses dendro?

Yn ei ateb, dywedodd Mr Drakeford: “Fe fydd yn gwybod fod adolygiad ar y gweill o’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru. Mae yno i wneud yn sicr, os bydd unrhyw gyfleoedd i ni addasu ein gweithdrefnau caffael y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, y gallwn fanteisio ar y cyfleoedd hynny.

“Un o’r pethau y gallwn wneud, efallai—a rhaid i mi bwysleisio, wrth gwrs, Llywydd, fod hyn dan drafodaeth o hyd—fydd newid y rheolau, fel  y bydd y math o gwmnïau y cyfeiria Leanne Wood atynt— cwmnïau lleol heb y gallu i ymwneud yn gyson â’r maes caffael—yn gweld maes chwarae mwy gwastad iddynt o gymharu â rhai o’r rheolau y mae’n rhaid i ni gadw atynt ar hyn o bryd.”

Wedyn, dywedodd Leanne: “Os yw’r Gweinidog yn benderfynol o adolygu gweithdrefnau caffael wedi Brexit, bydd yn rhaid iddo aros am amser maith. Rheolaeth dros gaffael cyhoeddus yw un o’r 24 maes polisi datganoledig a drosglwyddwyd gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn ôl i San Steffan am y saith mlynedd nesaf.

“Tan hynny, rydym ar drugaredd Llywodraeth San Steffan sy’n gweld Cymru, ar y gorau, fel dim ond mater ymylol.”

Os ydych chi'n cefnogi Leanne ar hyn, beth am ymuno â Phlaid Cymru? Gallwch wneud hynny trwy glicio ar y ddolen hon. Diolch.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.