Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood heddiw wedi condemnio’n gryf Brif Weinidog Cymru am beidio â chodi’r cap cyflogau i weithwyr y sector cyhoeddus.
Daw ei galwad wrth i Brif Weinidog yr Alban gyhoeddi’r wythnos hon y codir y cap yn yr Alban, a bod adroddiadau ar led y bydd Prif Weinidog y DG yn gwneud yr un peth yn Lloegr
Dywedodd Leanne Wood ei bod yn edrych bron fel petai’r Prif Weinidog a’i weinyddiaeth Lafur yn "colli’n rhwydd y frwydr yn erbyn llymder a’u bod ofn sefyll yn erbyn y Toriaid" trwy beidio a gwneud digon i liniaru effaith toriadau San Steffan ar Gymru.
Meddai arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: "Bydd Cymru yn llusgo y tu ôl i’r Alban a Lloegr yn awr, gyda’r Prif Weinidog wedi gwrthod codi’r cap cyflogau i weithwyr y sector cyhoeddus yma yng Nghymru.
"Mae ein cenedl eisoes wedi talu pris rhy uchel am lymder. Ein cymunedau tlotaf sydd wedi colli’r mwyaf, sydd wedi gweld gwasanaethau’n cael eu torri a cholli mwynderau.
"Ewch i unrhyw nifer o gymunedau difreintiedig i weld effaith llymder ar ddirywiad canol trefi. Roedd hyn yn digwydd tra bod ASau Llafur yn eistedd ar eu dwylo yn San Steffan ac yn ymatal, gan adael i bolisïau lles y Torïaid basio.
"Gallasai’r Prif Weinidog a Llywodraeth Lafur Cymru fod wedi gwneud cymaint mwy i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y DG i godi’r cap cyflogau sector cyhoeddus, ac eto, wnaethon nhw mo hynny.
"Mae bron fel petai’r Prif Weinidog a’i weinyddiaeth Lafur yn colli’n rhwydd y frwydr yn erbyn llymder. Mae Cymru wedi colli cymaint, ac mae arnom angen llywodraeth fydd yn dweud "dim mwy”.
"Nawr bod adroddiadau yn dod i’r fei y codir y cap yn Lloegr, dylai Cymru dderbyn ‘arian dilynol’ fyddai’n cael ei ddefnyddio i roi codiad cyflog y mae ein gweithwyr sector cyhoeddus yn haeddu.
"Mae effaith yr anghyfiawnder hwn ers i gyflogau’r sector cyhoeddus gael eu rhewi yn 2010 yn amlwg, gydag arolwg mawr o athrawon yng Nghymru eleni yn dangos bod un o bob tri yn barod i adael.
"Mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu llymder bob cam o’r ffordd, ac fe wnawn barhau i wneud hynny.
"Mae holl gysyniad ein gwasanaethau cyhoeddus dan fygythiad, a buaswn yn annog pawb yng Nghymru sydd eisiau gwasanaethau cyhoeddus cryf all edrych ar ein holau oll o’r crud i’r bedd i ymuno â ni yn ein gwaith yn erbyn toriadau’r Torïaid a methiant Llafur i ymladd yn eu herbyn."
Os ydych yn cytuno â'r Leanne, cliciwch y ddolen hon. Diolch.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter