Mae’r Freuddwyd o Breifateiddio wedi “Chwalu” – “Mae’n Hen Bryd Deffro”

Leanne_and_Nadine.jpg

Mae Plaid Cymru wedi galw eto ar rymoedd llawn dros gyfiawnder troseddol i Gymru ar ôl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi ddoe y bydd gwasanaethau prawf (probation) yng Nghymru a Lloegr yn cael eu trosglwyddo yn ôl i berchnogaeth a rheolaeth gyhoeddus.

Disgrifiodd Leanne Wood AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Gyfiawnder a Throsedd, y penderfyniad gwreiddiol i ran-breifateiddio’r gwasanaeth yn “drychineb” gan ddweud ei bod yn hen bryd “deffro” nawr bod y “freuddwyd o breifateiddio wedi’i chwalu.”

Ddoe, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cyfiawnder y DU y byddai gwasanaethau prawf yng Nghymru a Lloegr yn dychwelyd yn llwyr i'r sector gyhoeddus. Golygai hyn y bydd rheoli troseddwyr, adsefydlu a gwaith di-dâl i gyd yn dod o dan reolaeth y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (NPS), gan ddod â'r diwygiadau preifateiddio a gyflwynwyd yn 2014 i ben.

Dywedodd Leanne Wood MS fod “synnwyr cyffredin” wedi ennill y dydd o’r diwedd.

Croesawodd yr ymgyrchydd cyfiawnder troseddol Nadine Marshall y cyhoeddiad ond dywedodd ei bod yn “ddig” ei fod wedi cymryd cyhyd i weld newid. Cafodd mab 18 oed Nadine, Conner Marshall, ei guro i farwolaeth ym Mhorthcawl yn 2015 gan ymosodwr a oedd ar brawf ar y pryd.

Ychwanegodd Ms Wood fod gan Gymru’r cyfraddau carcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop a gyda nifer y carcharorion sy’n marw o gam-drin sylweddau wedi cyraedd y lefelau uchaf erioed. Dywedodd fod hyn yn brawf nad oedd system cyfiawnder troseddol Lloegr yn “gweithio i Gymru”.

Adleisiodd Ms Marshall alwad Plaid Cymru am bwerau llawn dros gyfiawnder troseddol “i sicrhau nad oes mwy o deuluoedd yn gorfod dioddef fel fy un i,”.

DywedoddLeanne Wood MS, Gweinidog Cysgodol Cyfiawnder a Chydraddoldeb Plaid Cymru“Mae synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd diwedd. Roedd preifateiddio'r gwasanaeth prawf yn drychineb. Mae bron i hanner yr oedolion sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar yn aildroseddu ac yn dychwelyd i’r carchar yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae'r cylch trosedd hwn yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau Cymru ac mae'n rhaid i ni ofyn - faint o fywydau eraill sy'n rhaid eu colli cyn i hyn gael ei ddatrys? 

“Fel y canfu Comisiwn Thomas ar ddatganoli cyfiawnder, mae pobl yng Nghymru yn cael eu siomi gan y system yn ei chyflwr presennol. Nid yw system cyfiawnder troseddol Lloegr yn gweithio. Pe bai Cymru yn rhedeg ei system cyfiawnder troseddol ei hun, gallem ganolbwyntio ar leihau niwed a gwella canlyniadau.

 "Mae’r freuddwyd preifateiddio wedi’i chwalu -mae’n hen bryd deffro.

 “Efallai na fyddwn ni byth yn deall gwir faint a chost y penderfyniad i breifateiddio’r gwasanaeth prawf yn rhannol, ond mae gennym ni gyfle i ddod â’r rheolaeth yn ôl i Gymru, er budd pawb yng Nghymru.”

 Dywedodd Nadine Marshall: “Rwy’n dal yn ddig ei bod wedi cymryd cyhyd i newid ddigwydd, ond os nad ydym yn gweld newidiadau sylfaenol i’n gwasanaethau carchardai a’r ffordd y caiff y gwasanaeth prawf ei reoli, bydd bron i hanner yr holl bobl a ryddhawyd o’r carchar yn mynd ymlaen i aildroseddu. Dydw i ddim eisiau byw fel 'na.

“Rwy’n teimlo dros yr holl deuluoedd sydd wedi gorfod dioddef fel fy un i, ac rwy’n pryderu o feddwl y bydd mwy o deuluoedd yn dioddef trasiedi bersonol yn nwylo rhywun ar brawf, yn yr arbrawf ofnadwy hwn aeth o’i le.

“Rydyn ni’n gwybod bod y system wedi torri a phe bai gan Gymru reolaeth, fe allen ni ei newid fel nad oes ganddom bellach y system doredig hon yn gysgod dros ein pennau.”

Os hoffech chi gefnogi Leanne a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.