Yr oedd llai na 32,000 o wisgoedd meddygol wedi eu cadw mewn Partneriaeth Cyd-wasanaeth y GIG yng Nghymru pryd y tarodd yr achos cyntaf o’r coronafeirws y wlad, yn ôl ymchwil a wnaed gan AS y Rhondda.
Mewn ateb i gwestiwn a gyflwynwyd gan Leanne Wood i’r Gweinidog Iechyd, daeth i’r amlwg mai dim ond 31,697 gwisg oedd yn cael eu cadw gan storfeydd canolog Bartneriaeth Cyd-wasanaeth GIG Cymru pan gadarnhawyd yr achos cyntaf o coronafeirws yng Nghymru ddiwedd Chwefror.
Er bod hyn yn ychwanegol i’r stoc oedd gan gyrff unigol y GIG, bychan yw nifer y gwisgoedd a ddaliwyd gan y bartneriaeth cyd-wasanaeth o gymharu ag eitemau eraill o gyfarpar hanfodol oedd ganddynt.
Datgelodd yr atebion – ar yr un pryd – fod y bartneriaeth cyd-wasanaeth yn cadw 1,575,035 o offer gwarchod llygaid, 4,901,870 o fygydau wyneb, 33,800,150 o fenig a 893,025 o anadlyddion FFP3.
Yr oedd rhai’r Ymddiriedolaethau GIG yn Lloegr yn defnyddio 150,000 gwisg y dydd pan oedd y coronafeirws ar ei waethaf, yn ôl Chris Hopson, prif weithredwr Darparwyr y GIG.
Mae hyn yn dilyn y newyddion a ddatgelwyd mewn llythyr gan y Prif Weinidog Llafur at arweinydd Plaid Cymru Adam Price nad oedd gwisgoedd yn y stoc wrth gefn rhag ofn y deuai pandemig rhwng Mehefin 2016 a Chwefror 2020.
Dywedodd Ms Wood fod hyn yn profi nad oedd y llywodraeth Lafur yn barod am Covid-19.
“Synnais o weld cyn lleied o wisgoedd oedd yn cael eu cadw yn storfeydd canolog Partneriaeth Cyd-wasanaeth GIG Cymru erbyn diwedd Chwefror pan welwyd yr achos gyntaf o’r coronafeirws yng Nghymru,” meddai Ms Wood.
“Nid oedd y stoc ganolog yn ddim ond un rhan o bump o’r hyn y byddai ymddiriedolaeth ysbyty brysur yn Lloegr yn ddefnyddio mewn un diwrnod pan oedd y clefyd ar ei waethaf yn y DG. Yn amlwg, nid oedd yn ddigon.
“Ar waethaf rhybuddion difrifol o wledydd eraill fel China a’r Eidal a gafodd y feirws o’n blaenau ni, nid oedd y Llywodraeth Lafur wedi paratoi digon erbyn i’r achos cyntaf ddod i’r amlwg. Beth bynnag, yr oedd llywodraethau wedi cael eu rhybuddio ers blynyddoedd mai pandemig fyddai un o’r bygythiadau mwyaf i fywyd.
“Golygodd y cynllunio gwael hwn ar ran y llywodraeth fod llawer o staff yn trin cleifion wedi’u heintio hen y CGP iawn a argymhellwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Ymddengys bod y sefyllfa hon ar ei gwaethaf mewn cartrefi gofal.
“Mae hyn yn annerbyniol, ac y mae angen craffu arno, dim ots os nad yw’r Gweinidog Llafur Minister eisiau hynny.
“Gwaith y llywodraeth yw gofalu bod digon o CGP i’r holl staff sydd ei angen er mwyn eu diogelu ac atal lledaeniad y feirws.
“Yn hyn o beth, mae’r Llywodraeth Lafur wedi methu.”
Os hoffech chi gefnogi Leanne a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter