Roedd mwy na 100 o bobl mewn cyfarfod a drefnwyd gan Blaid Cymru yng Nghlwb Rygbi Porth Harlequins am ddyfodol yr Adran Frys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Mynegwyd teimladau cryfion yn y cyfarfod gorlawn a gadeiriwyd gan AC y Rhondda Leanne Wood a lle’r oedd uwch-reolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Yn ystod awr gyntaf y cyfarfod, cyflwynodd y penaethiaid iechyd eu hachos dros symud gwasanaethau dan arweiniad meddygon ymgynghorol o Adran Frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Yna cafodd pobl yn y gynulleidfa gyfle i holi Prif Weithredwr dros dro Cwm Taf Sharon Hopkins, y Cadeirydd Marcus Longley a’r Cyfarwyddwr Meddygol Nick Lyons.
Yr oedd ail hanner y cyfarfod - heb uwch-reolwyr y bwrdd iechyd - yn canolbwyntio ar sut i fwrw ymlaen â’r ymgyrch er mwyn achub gwasanaethau’r Adran Frys. Penderfynodd yr ymgyrchwyr gasglu cynifer o lofnodion ag oedd modd ar ddeiseb i’r Cynulliad i sicrhau dadl yn y Senedd a threfnu gwrthdystiad yn y Senedd i ddangos cryfder teimladau mewn ardaloedd a wasanaethir gan yr ysbyty.
Cafwyd cymeradwyaeth frwd hefyd i nyrs sy’n gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a amddiffynnodd yr Adran Frys.
Wedyn, dywedodd Leanne: “Hawdd deall fod emosiynau cryf i’w teimlo yn ystod y cyfarfod am fod pobl yn ystyried y byddai’r newidiadau arfaethedig yn gwneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw mewn argyfwng. Cafodd pobl gyfle i gwestiynau penaethiaid y bwrdd iechyd, ac fe wnaethant fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwnnw.
“Yr oedd hefyd lawer o deimladau cadarnhaol a phenderfyniad i frwydro yn erbyn unrhyw gynlluniau fyddai’n gweld darpariaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol o Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Penderfynodd pobl yn unfryd i frwydro’n ddygn er mwyn cadw gwasanaethau 24 awr yn yr Adran Frys a gwrthod dewisiadau fyddai’n gweld gwanhau’r gwasanaeth hwnnw.
“Fe wnaethom oll gytuno i lofnodi a rhannu deiseb i’r Cynulliad er mwyn cael dadl yn y Senedd – mae’n dda gweld ein bod eisoes wedi cael y miloedd o lofnodion sydd eu hangen.
“Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i’r Gweinidog Iechyd Llafur ateb cwestiynau. Gallwch fod yn sicr y bydd Plaid Cymru yn cynnal ymgyrch gref i gadw gwasanaethau 24 awr dan arweiniad meddygon ymgynghorol Adran Frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.”
Ychwanegodd Leanne: “Mae gennym frwydr anodd o’n blaenau oherwydd nid yn unig ein bod yn erbyn uwch-reolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ond hefyd yn erbyn y Llywodraeth Lafur yng Nghymru a’u hagenda canoli.
“Wedi dweud hynny, petai’n fater yn unig o gryfder teimlad, penderfyniad a brwdfrydedd yn yr ystafell yng Nghlwb Rygbi Porth Harlequins, yna fe fuasem yn ennill y frwydr hon yn rhwydd.
“Rhaid i ni yn awr drefnu er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r achos cryfaf posib nid dim ond i gadw gwasanaethau yn Adran Frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ond i’w cryfhau.”
Os hoffech chi gefnogi Leanne a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter