Hoffwch chi fod ar y tîm buddugol?
Ar draws y wlad mae mwy a mwy o bobl yn cofrestru ar gyfer pleidlais drwy’r post ac rwy'n ysgrifennu atoch i roi cyfle i chi i fod yn rhan o’r duedd hon.
Yn Etholiad Cyffredinol y DU yn 2015 pleidleisiodd mwy o bobl nag erioed o’r blaen trwy’r post, 1 o bob 4 mewn rhai ardaloedd.
Mae pobl sydd â phleidlais bost yn llawer mwy tebygol o gyflawni eu dyletswydd ddemocrataidd a phleidleisio mewn etholiadau. Dyma pam mae pleidleiswyr post fwyfwy yn penderfynu canlyniad etholiadau.
Trwy gofrestru ar gyfer pleidlais bost gallwch chi hefyd fod ar y tîm buddugol.
Cofiwch hefyd, os ydych yn hoffi mynd i'r orsaf bleidleisio ar Ddiwrnod yr Etholiad gallwch dal wneud hynny trwy fynd â'ch pleidlais bost i'r orsaf bleidleisio. Ond os ydych yn mynd i fod i ffwrdd am ryw reswm, mae pleidlais bost yn rhoi hyblygrwydd i chi ac mae'n rhoi dewis. Mae'n rhoi'r pŵer yn eich dwylo chi.
Mae'n hawdd i wneud cais, cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen gais,
neu gysylltwch â:
Mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol
Rhondda Cynon Taf
Uned 2
Parc Busnes Maritime
Stad Ddiwydiannol Maritime
Pontypridd CF37 1NY
01443 490100
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter