Mae AC y Rhondda wedi derbyn sicrwydd fod gwaith ar y gweill i adfer gwasanaethau ffonau symudol yn dilyn tân mewn mast yn y Porth.
Effeithiwyd ar dderbyniad ffonau symudol i drigolion a busnesau lleol ers yr hyn a amheuwyd oedd yn dân bwriadol yn y lleoliad ar fryn uwchlaw Birchgrove. Wedi i drigolion lleol ddod i gysylltiad â hi ynghylch y tarfu, cododd Leanne y mater ar lawr Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cysylltodd ei swyddfa hefyd â Nick Speed, Cyfarwyddwr Grŵp BT yng Nghymru, i gael newyddion am yr ymateb i’r tân a’r tarfu ar wasanaethau. Atebodd gyda’r newyddion diweddaraf gan y tîm sy’n gweithio i adfer y gwasanaethau, sef: ‘Yn dilyn y tân bwriadol ar Fedi 13 a wnaeth ddifrod sylweddol i’r mast a chyfarpar EE yn y safle, rydym wedi bod yn gweithio i adfer y gwasanaeth ac yr ydym hefyd yn ceisio atebion dros dro.
‘Rhoed mwy o bwysigrwydd i’r digwyddiad, ac yr ydym bellach yn disgwyl y bydd gwaith wedi ei gwblhau ar y safle yn gynnar yr wythnos nesaf, naill ai ar Hydref 1 neu 2. Dylem rybuddio bod nifer o ffactorau yn effeithio ar hyn, gan gynnwys materion diogelwch, ac fe allai gael ei oedi tan yr wythnos ddilynol.
‘Yn y cyfamser, rydym wedi ymchwilio i weld a fydd modd cael ateb dros dro i’r ardal leol. Rydym yn sylweddoli y bu’r digwyddiad hwn yn anghyfleus i etholwyr. Rydym yn hapus i ystyried rhoi iawndal i gwsmeriaid am y diffyg gwasanaeth cyfredol. Bydd pob achos yn cael ei asesu fesul un, a buasem yn annog etholwyr i gysylltu â gwasanaethau cwsmeriaid EE i wneud cais am hyn.’
Dywedodd Ms Wood: “Mae’n dda deall bod pwysigrwydd y digwyddiad hwn wedi’i gynyddu. Mae llawer o drigolion a busnesau lleol wedi bod heb signal ers bron i bythefnos. Codais hyn yr wythnos hon ar lawr y Senedd ac ysgrifennu at Gyfarwyddwr Grŵp BT Cymru.
“Mae’n siomedig clywed y gall y tarfu bara am wythnos arall, oherwydd bod y tân hwn eisoes wedi achosi llawer o anhwylustod.
“Rwy’n deall yn iawn yr angen i sicrhau diogelwch y peirianwyr sydd yn trwsio’r mast - gallaf ond gobeithio y bydd modd dod o hyd i ffordd i adfer y signal mor fuan ag sydd modd. Nid moethusrwydd yw signal symudol. I’r rhan fwyaf o bobl yn awr, mae gallu mynd ar-lein yn hanfodol.
“Yn y cyfamser, buaswn yn annog unrhyw un y mae’r tarfu wedi effeithio arnynt i ymchwilio i bosibilrwydd iawndal trwy wasanaethau cwsmeriaid EE tra’u bod yn aros am i’r mast ffôn symudol gael ei drwsio.”
Os hoffech chi gefnogi Leanne a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter