Mae Leanne Wood wedi cychwyn deiseb i geisio cael toiledau ar y genhedlaeth nesaf o drenau a gynllunnir ar gyfer lein Treherbert i Gaerdydd.
Mae AC y Rhondda wedi datgelu penderfyniad y Llywodraeth Lafur i osod trenau ar lein arfaethedig y Metro fydd heb gyfleusterau toiled. Yn hytrach, dywedodd y Prif Weinidog Llafur y buasent yn uwchraddio cyfleusterau mewn gorsafoedd i deithwyr adael y gwasanaeth pan fydd angen iddynt ddefnyddio’r tŷ bach, wedi dweud wrth Ms Wood i ddechrau y byddai toiledau ar lein Treherbert.
Dywedodd Ms Wood fod y penderfyniad hwn yn “chwerthinllyd” ac y byddai’n cael yr effaith fwyaf ar bobl anabl, merched beichiog ac unrhyw un sydd â chyflwr meddygol sy’n golygu bod yn rhaid iddynt fynd i’r toiled yn aml.
Dywedodd: “Mae’r gwahanol Lywodraethau Llafur yng Nghymru wedi esgor ar ambell i syniad dwl dros y blynyddoedd, ond mae methu â rhoi toiledau ar drenau ymhlith y gwaethaf ohonyn nhw.
“Mae’n chwerthinllyd disgwyl i bobl ddod oddi ar drenau i ddefnyddio’r toiled ac yna aros i’r gwasanaeth nesaf i fwrw ymlaen â’u taith. Mae rhai yn dweud fod Metro yn gweithio’n fwy fel system o drenau tanddaearol, ond nid dinas ydym ni, a dyw’r trenau ddim yn dod mor aml â hynny.
“Pan fydd pobl yn dal trên i’r gwaith, er enghraifft, mae’n rhaid iddynt allu mynd yno’n syth. Allan nhw ddim chwarae o gwmpas yn gadael ac yn mynd ar drenau er mwyn mynd i’r tŷ bach.
“Rwyf wedi cael nifer o bobl yn cysylltu â mi mewn anghrediniaeth a dicter fod hyn yn digwydd mewn gwirionedd. Dywedwyd wrthym y byddai ein gwasanaethau trenau yn gwella, ond mae pobol yn holi, a yw hyn yn wir yn gynnydd?
“Rwyf yr un mor anghrediniol a dig, a dyna pam fy mod eisiau i gynifer o bobl ag sydd modd lofnodi’r ddeiseb hon er mwyn i ni allu dwyn cymaint o bwysau ag sydd modd ar y Llywodraeth Lafur i newid eu meddwl.
“Rwyf eisoes yn codi’r mater hwn yn aml yn y Senedd – byddai’n wych pe gellid cefnogi hyn gyda llofnodion pobl y Rhondda.”
Os hoffech chi gefnogi Leanne a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter