Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi herio’r llywodraeth Lafur i anrhydeddu’r ymrwymiad yn eu maniffesto a chodi’r cap ar gyflogau’r GIG.
Gofynnodd Leanne Wood i’r Prif Weinidog ymrwymo i godi’r cap cyflogau yn y gyllideb nesaf, a rhybuddiodd fod yr hen system o gael San Steffan yn penderfynu ar dâl ac amodau wedi hen ddyddio.
Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i weithio gydag undebau i godi’r cap cyflogau yn eu cyllideb am 2018.
Mae Cydffederasiwn GIG Cymru yn amcangyfrif fod bil cyflogau’r GIG tua £3bn. Gallai codiad cyflog yn unol â CPI (2.3%) gostio rhyw £70m yn ychwanegol, a chred Plaid Cymru fod hyn yn fforddiadwy o fewn cyllideb bresennol y llywodraeth.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood:
“Mae Plaid Cymru eisiau codi cap cyflogau’r GIG. Ers yn rhy hir o lawer, mae meddygon, nyrsys a staff eraill y GIG wedi gweld rhewi eu cyflogau, tra bod bancwyr yn parhau i dderbyn bonysau, a’r teulu brenhinol yn parhau i dderbyn codiadau uwch o lawer na chwyddiant bob blwyddyn, fel y mae gwleidyddion a’r rhai ar frig y raddfa mewn llywodraeth leol.
“Ymrwymodd Llafur yng Nghymru i ddileu cap cyflogau’r GIG yn eu maniffesto am 2017. Mae gennym Lywodraeth Lafur yng Nghymru, wyth ar hugain o ASau Llafur ac eto, mae cap cyflogau’r GIG yn dal yn ei le.
“Mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i weithredu heddiw i amddiffyn nyrsus ac aelodau staff eraill y GIG yng Nghymru. Gallasai fod wedi ymrwymo’n glir heddiw i ddarparu’r cyllid hwnnw yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. Maent yn dewis peidio. Dewis gwleidyddol yw hynny.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu llymder Llywodraeth y DG yn llawn ac yn awr, mae’n gwrthod ystyried ei lacio. Mae’n peri i rywun ofyn – pam fod Llafur hyd yn oed yn bod os na all amddiffyn gweithwyr Cymru?”
Os ydych chi eisiau helpu Leanne a Phlaid Cymru, cliciwch y ddolen hon. Diolch.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter