Ydych chi'n gallu benthyg eich sgiliau i ni?
Er mwyn symud ymlaen ac agor y pwll padlo, mae angen i ni, fel cymuned, gymryd yr awennau ein hunain, a chymryd cyfrifoldeb am gynnal a chadw'r pwll, a'r rhedeg o ddydd i ddydd, a'r staffio yn ystod oriau agor y pwll.
Mae criw o bobl yn gweithio'n ddiwid i sicrhau bod y pwll padlo yn agor yr Haf nesaf, ond cyn iddo agor mae angen criw o bobl i wirfoddoli gyda'r gwaith cynnal a chadw.
Pa sgiliau sydd gyda chi i gynnig er mwyn sicrhau bod y pwll yn agor?
Mae croeso i chi wneud unrhyw sylw gadarnhaol fyddai'n ein symud ni yn nes at agor y pwll.
A wnewch chi wirfoddoli?
Hoffwch hyn er mwyn annog eich ffrindiau i wirfoddoli.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter