Galwn ar Gyngor Rhondda Cynon Taf i ail-agor y Pyllau Padlo
Bydd y gwyliau Haf ar ein pennau cyn bo hir, a does unman i blant y Rhondda fynd i gael hwyl am ddim yn y dŵr - heblaw am deithio'n bell i'r Lido ym Mhontypridd! ac os oes gyda chi cwpwl o blant, mae'r swrne yna yn gallu bod yn un hir, llafurus a chostus. Nid pawb sydd yn gallu fforddio talu am fws yr holl ffordd i Bontypridd. Er bod y cyngor wedi ail adrodd nad oes bwriad gyda nhw o ail agor yr un pwll padlo, rydym yn cadw'r ddeiseb ar agor am ychydig eto er mwyn dangos pa mor gryf yw teimladau pobl am y pyllau padlo. Mae'r ddeiseb ar y wefan Saesneg yn unig i beidio â rhannu'r ddeiseb, felly cliciwch y botwn English ar ben y sgrin a dilynnwch y cyswllt at dudalen y ddeiseb er mwyn arwyddo.
Diolch o galon i chi am eich cefnogaeth.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter