Cartrefi’r Rhondda yn cael eu Taro gan Lifogydd eto
Wrth ymateb i’r newyddion fod cartrefi yn Nhreorci wedi dioddef llifogydd dros nos, dywedodd AS y Rhondda Leanne Wood: “Mae’n erchyll i’r sawl sydd wedi dioddef digwyddiad eto fyth o lifogydd yn y Rhondda eleni. Gorlifwyd cartrefi ar y Stryd Fawr yn Nhreorci eisoes, ac yr oedd rhai ond newydd orffen gwaith trwsio ac adnewyddu. Mae cartrefi mewn mannau eraill wedi eu taro hefyd.
Amddiffynnwch ein Sefydliadau Diwylliannol - Leanne
Mae Aelod Senedd y Rhondda wedi ymbil am warchod y celfyddydau, gan ddweud eu bod yn un o bileri cymdeithas, ac na allwn fforddio eu colli.
Deiseb am Ymchwiliad i’r Llifogydd wedi’i Chefnogi gan Leanne ym Mhwyllgor y Senedd
Mae deiseb i roi ymchwiliad annibynnol ar waith i gyfres o lifogydd yn Rhondda Cynon Taf wedi symud gam yn nes at ddadl mewn sesiwn lawn.
Piano Newydd i Ysbyty yn Dilyn Apêl Gyhoeddus gan AS y Rhondda
Yr oedd Leanne Wood yn rhan o gyflwyno’n swyddogol biano traws bach a gaiff ei ddefnyddio i ddifyrru cleifion mewn ysbyty yn y Rhondda.
Cloi RCT yn "siom ond nid yn syndod " - Leanne
Dywedodd AS y Rhondda Leanne Wood: “Mae’n siomedig ond nid yn syndod fod y Rhondda wedi dilyn bwrdeistref sirol Caerffili ac wedi cyflwyno cyfnod cloi. Roedd hyn yn rhywbeth yr oeddem ni’n ofni fuasai’n digwydd oherwydd y cynnydd mewn cyfraddau trosglwyddo.
Adroddiad am Garchardai yn “Gondemniad Damniol” o’r System Gyfiawnder - Leanne
Wrth ymateb i gyhoeddi adroddiad damniol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru am y system gosbi yng Nghymru, dywedodd Leanne Wood AS - Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gyfiawnder a Chydraddoldeb: “Mae’r adroddiad cynhwysfawr hwn yn gondemniad damniol o’r ffordd wael y mae Cymru’n cael ei thrin gan y system gyfiawnder a redir gan San Steffan.
Cynllun Bwyd Newydd gan AS y Rhondda yn Swyddogol ar Waith
Yn ystod wythnos gyntaf cynllun bwyd newydd a redir gan Aelod Senedd y Rhondda, dosbarthwyd 300 kg o fwyd.
Llanast Profion yn “Warth” – Leanne Wood
Wrth ymateb i’r newyddion fod Llywodraeth y DG wedi cyfyngu profion yn y Rhondda i ddim ond 60 prawf y dydd er bod yn gallu yno i brosesu hyd at 500, dywedodd Aelod y Senedd dros y Rhondda: “Mae hyn yn dangos dirmyg San Steffan tuag at Gymru. Mae bywydau mewn perygl yma yn y Rhondda oherwydd y gyfradd drosglwyddo uwch yn ardal y Porth i Benygraig, ond ymateb San Steffan yw mygu’r gallu i brofi.
‘Mae gennym oll well cyfle o oroesi hyn fel cyfres unedig o gymunedau cryf” - Leanne
Wrth ymateb i’r newyddion fod cyfraddau trosglwyddo coronafeirws yn dal i gynyddu yn RCT a bod gwaelod y Rhondda yn ardal arbennig o beryglus, dywedodd AS y Rhondda Leanne Wood: “Rwy’n pryderu fod y Rhondda a gweddill RCT ar fin dod i gyfnod cloi. Os gosodir cyfyngiadau arnom eto, bydd hyn ag oblygiadau o bwys i’n hiechyd, ein lles a’r economi lleol. Mae’n fater o bryder hefyd fod cyfraddau trosglwyddo yn dal i godi.
Leanne yn Holi Gweinidog Llafur ar Fater Llifogydd
Mae Aelod Senedd y Rhondda wedi galw ar y Llywodraeth Lafur yng Nghymru i ddarparu drysau llifogydd i bob aelwyd yn y Fach a’r Fawr sydd mewn perygl oherwydd llifogydd.