Cwymp Dramatig yn y Defnydd o Lyfrgelloedd Ers i'r Blaid Lafur eu Cau, medd Plaid Cymru
Gall Plaid Cymru ddatgelu bod nifer y bobl sy'n ymweld â llyfrgelloedd yn Rhondda Cynon Taf wedi gostwng o 26% ers i'r cyngor gau llawer ohonynt.
Angen i Lywodraeth Ailfeddwl Cynlluniau Pensiynau Menywod
Mae cynlluniau pensiynau Llywodraeth San Steffan yn bygwth cosbi merched ymhellach er bod llawer ohonynt wedi dioddef oes o weithio ar gyflog isel. Mae'r broses o gyfartalu yn rhy gyflym a bydd merched sydd ar fin oed ymddeol, neu a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill, 1951, o ganlyniad, yn dioddef caledi annheg. All y merched hyn ddim mynd yn ôl i ailfyw eu bywydau ac maen nhw'n haeddu gwell triniaeth gan y Llywodraeth.
Cytundeb Canser Plaid Cymru
Heddiw, Mae Plaid Cymru wedi lansio ein cytundeb canser, gwyliwch fy fideo yma.
Sianel Newydd Youtube
Os ydych am weld mwy o fy ngwaith fel Aelod Cynulliad , gallwch ymweld â fy Sianel YouTube newydd drwy glicio yma
Addunedau Blwyddyn Newydd
Plaid Cymru am wneud Cymru ‘yn gyfoethocach ac yn iachach’
Mae Leanne Wood heddiw wedi dweud y byddai ei phlaid yn cyflwyno cyfres o Amcanion Cenedlaethol petai’n ffurfio llywodraeth newydd Cymru.
Wrth i bleidleiswyr ar draws Cymru gynllunio eu haddunedau Blwyddyn Newydd, dywedodd arweinydd y Blaid fod ar Gymru angen cyfeiriad newydd, amcanion clir ac arweiniad cryf, a datgelodd ei haddunedau ar gyfer y genedl.
Dywedodd Ms Wood, fel Prif Weinidog, y byddai ei llywodraeth yn canoli ei holl adnoddau ar gwrdd â deg Amcan Cenedlaethol uchelgeisiol tuag at greu Cymru fwy llwyddiannus a thecach.
Byddai hyn yn hollol groes i Lywodraeth Lafur flinedig bresennol Cymru sydd fel petai’n gwneud dim ond llamu’n ddiamcan o un argyfwng i’r llall.
Mewn llywodraeth, blaenoriaeth y Blaid fydd cau bwlch cyrhaeddiad Cymru gyda gweddill y DG, ac y mae’n cynrychioli lefel yr uchelgais a ddisgwylir gan lywodraeth mewn democratiaeth ifanc a modern.
Bydd y gwaith o gyrraedd yr amcanion hyn yn cael ei arwain gan Leanne Wood ac adran gref y Prif Weinidog fydd yn cyd-gordio cyfeiriad strategol y llywodraeth ac yn rhoi terfyn ar feddylfryd silo presennol adrannau llywodraeth sydd wedi bod yn nodwedd amlwg o bron i 17 mlynedd o reolaeth Lafur.