Annwyl Friend,
Rwy’n ysgrifennu i roi gwybod i chi fy mod wedi meddwl lawer amdanoch chi, a’n holl aelodau a’n cymuned eleni.
Bu 2020 yn anodd i gymaint ohonom.
Bu colled, unigrwydd ac ansicrwydd yn bresennol ym mywydau cymaint ohonom.
Ond y mae 2021 rownd y gornel, a chyda hi daw gobaith a chyffro am ddiwrnod newydd gwell.
Mae sefyll gyda’n gilydd fel cymuned yn ein gwneud yn gryfach, ac y mae grym yn ein cefnogaeth i’n cyfeillion a’n cymdogion.
Os galla’i eich cefnogi mewn unrhyw ffordd, neu os oes gennych unrhyw fater yr hoffech ei drafod gyda mi, cofiwch fod croeso i chi gysylltu â mi.
Rwyf am ddymuno Nadolig Llawen iawn i chi a’ch anwyliaid, a Blwyddyn Newydd fydd yn llawn gobaith, llawenydd a hapusrwydd.
Cofion cynhesaf,
Leanne Wood
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter