Mae AS y Rhondda wedi galw ar i lywodraethau Cymru a’r DG ystyried effaith coronafeirws ar fenywod.
Dywedodd Leanne Wood AS, sy’n Weinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gyfiawnder a Chydraddoldeb, fod adroddiad gan yr elusen Gymreig dros gydraddoldeb Chwarae Teg wedi dangos sut yr effeithiodd y pandemig byd-eang yn ddwfn ar fenywod yng Nghymru yn 2020.
Mae’r adroddiad, dan y teitl ‘Covid 19, Menywod, Gwaith a Chymru,’ yn rhoi manylion am y gwahanol ffyrdd y gwnaeth y feirws fywyd yn anodd. Mae’n datgelu sut mai menywod sydd wedi dwyn pen trymha’r baich o ofalu am blant a dysgu yn y cartref yn ystod y pandemig a sut y mae hyn yn ei dro wedi effeithio ar eu henillion a’u cynnydd o ran gyrfa. Canfu’r adroddiad hefyd fod menywod yn fwy tebygol o gael eu cyflogi mewn swyddi sy’n talu’n isel neu o weithio mewn sectorau sydd wedi gorfod cau i lawr oherwydd ymbellhau cymdeithasol.
Dywedodd Ms Wood: “Er nad yw’r canfyddiadau yn galonogol i’w darllen, yr wyf yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad hwn. Mae’n rhoi manylion am y modd yr effeithiwyd ar fenywod gan coronafeirws, ac y mae’n gwneud nifer o awgrymiadau y gallai’r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan a’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru eu gweithredu.
“Nid yw coronafeirws yn cael yr un effaith ar bawb. Rydym wedi gweld sut y gall fod yn fwy niweidiol a chyffredinol yn dibynnu ar ddosbarth, y lle’r ydych yn byw, eich incwm, anabledd a hil. Mae rhywedd hefyd yn ffactor, ac y mae’r adroddiad hwn yn dangos maint hynny.
“Buaswn yn annog y ddwy Lywodraeth i edrych ar ganfyddiadau’r adroddiad hwn ac i fabwysiadu polisi fydd yn sicrhau nad yw menywod yn cael eu llesteirio fwy yn ystod Covid-19.”
Am fwy o wybodaeth am yr adroddiad, cliciwch ar y ddolen hon.
Os ydych eisiau helpu i ail-ethol Leanne yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf, cliciwch ar y ddolen hon.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter