Mae Aelod Senedd y Rhondda wedi holi’r Gweinidog Iechyd ynghylch gwarth gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Holodd Leanne Wood AoS Vaughan Gething a fu “atebolrwydd” yn dilyn problemau ers amser mewn dwy adran famolaeth fawr yn y bwrdd iechyd a arweiniodd at ddwsinau o famau yn derbyn gofal israddol a’u pryderon yn cael eu hwfftio.
Mewn ymateb i ddatganiad gan y llywodraeth ar yr argyfwng mamolaeth, dywedodd Leanne: “Dyw hi ddim yn bosib gor-bwysleisio’r boen, yr anaf, y niwed a’r loes a achoswyd i bob un o’r teuluoedd y mae’r gwarth hwn wedi effeithio arnynt, ac y mae’n parhau. Nid rhywbeth yn y gorffennol yw hyn; mae’n rhywbeth y mae pobl yn byw gydag ef bob un dydd.
“Dywed yr adroddiad, o’r 28 episod o ofal a adolygwyd, mewn dwy ran o dair o’r achosion hyn, gallesid yn rhesymol ddisgwyl i ofal gwahanol fod wedi cael canlyniad gwahanol. All y Gweinidog esbonio beth yw ystyr ‘canlyniad gwahanol’ iddo ef? A yw’n derbyn y gall yr iaith gwrtais a diplomataidd a ddefnyddir yn yr adroddiadau hyn yn hawdd fod yn rhan o’r broblem?”
Ychwanegodd Leanne: “Mae’r adroddiad a’r datganiad yn rhoi llawer o bwyslais ar y gwelliannau a’r gwersi a ddigwyddodd, ond os ydym wedi dysgu unrhyw beth o’r flwyddyn a aeth heibio a sgandalau eraill a ddigwyddodd mewn sefydliadau eraill, yr ydym wedi deall mai’r unig ffordd i wreiddio gwersi yw trwy gael atebolrwydd am gamgymeriadau.
“All y Gweinidog ddweud yn onest y bu atebolrwydd yn y sgandal hwn, lle mae arweinwyr blaenorol y bwrdd iechyd wedi derbyn taliadau mor hael, a bod y menywod a ddioddefodd brofedigaethau heb, mewn rhai achosion, heb dderbyn dim?”
Os ydych eisiau helpu i ail-ethol Leanne yn etholiadau’r Senedd eleni, cliciwch ar y ddolen hon.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter