Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi dweud fod ei phlaid yn cynnig yr arweinyddiaeth gref sydd ei angen ar Gymru yn wyneb yr argyfwng economaidd yn sgil penderfyniad Tata i werthu ei safleoedd dur yn y DU.
Wrth siarad cyn lansiad maniffesto Plaid Cymru yng Nghaerdydd y bore yma, dywedodd Leanne Wood y byddai ei phlaid yn cyflwyno’r “rhaglen lywodraeth fwyaf uchelgeisiol ers dechrau datganoli” gyda chynlluniau uchelgeisiol ond cyraeddadwy i greu Cymru iach, glyfrach, gyfoethocach.
Ychwanegodd hi fod ar Gymru angen llywodraeth newydd nawr gyda’r syniadau a’r egni angenrheidiol i drawsnewid cyflwr economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Wrth siarad cyn lansiad maniffesto Plaid Cymru, dywedodd Leanne Wood:
“Mae Plaid Cymru yn mynd i’r etholiad hwn gyda’r rhaglen lywodraeth fwyaf uchelgeisiol ers dechrau datganoli.
“Heddiw, byddwn yn amlinellu syniadau beiddgar ac arloesol i greu Cymru iach, glyfrach, gyfoethocach drwy drawsnewid cyflwr ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus.
“Buddsoddi mewn isadeiledd, torri amseroedd aros, sicrhau gofal am ddim i’r henoed a chefnogi athrawon yw dim ond rhai o’r ffyrdd y mae Plaid Cymru yn bwriadu gwella bywydau pawb sy’n byw yng Nghymru.
“Gyda’n cenedl yn wynebu argyfwng economaidd yn sgil penderfyniad Tata i werthu ei safleoedd dur yn y DU, mae ar Gymru angen arweinyddiaeth gref a chyfeiriad clir fwy nag erioed o’r blaen.
“Mae cyfrifoldeb wrth galon ein rhaglen lywodraeth. Gyda chynllun i Gymru sydd wedi’w wirio’n annibynnol a’i gostio’n llawn, rydym yn hyderus fod y maniffesto hwn yn cynrychioli’r bennod gyntaf mewn cyfnod o well llywodraethiant i’n gwlad.
“Nawr, mae ar Gymru angen llywodraeth newydd gyda’r uchelgais a’r egni angenrheidiol i arwain ein cenedl i lwyddiant. Dyna mae Plaid Cymru yn ei gynnig fis Mai.”
Os ydych chi eisiau cefnogi ymgyrch Leanne, cliciwch y ddolen hon. Diolch.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter