Os caiff ei hethol ar 8 Mehefin, addawodd Branwen Cennard, ymgeisydd Plaid Cymru yn y Rhondda, i frwydro dros bensiynau teg i wragedd.
Dywedodd hyn wrth siarad, ynghyd ag Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wod ac AC De-ddwyrain Cymru, Steffan Lewis,o flaen y gofeb i löwyr yn y Maerdy.
Dywedodd y wraig fusnes a aned a maged yn Nhreorci, fod yr achos yn agos iawn at galon Plaid Cymru gan ychwanegu, "Os caf fy ethol ar 8 Mehefin, fi fydd AS benywaidd gyntaf y Rhondda. Byddaf yn ymladd i'r carn dros bensiynau cydradd i wragedd ac yn cefnogi WASPI [Women Against State Pension Inequality]
Mae eich amddiffyn chi ac amddiffyn Cymru yn erbyn annhegwch ac anghydraddoldeb wrth wraidd maniffesto Plaid Cymru a'i hymgyrch etholiadol.
"I gael gwir gydraddoldeb a chymdeithas decach, cefnogwch Blaid Cymru. Pleidleisiwch drosof i a Phlaid Cymru ar 8 Mehefin, fel y gallwn, gyda'n gilydd, adeiladu gwell dyfodol i'r Rhondda a Chymru."
Trodd Branwen ei sylw hefyd at y toriadau a wnaed i'r gefnogaeth a roddir i bobl anabl. "Mae Theresa May yn cefnogi toriadau anghyfiawn a fydd yn cosbi rhai sy'n derbyn Taliadau Annibyniaeth Bersonol [PIP] a fydd yn effeithio ar dros 160,000 o bobl sy'n dioddef o afiechyd meddwl dybryd - y ces i'r pleser o gwrdd ag un ohonynt yn Llwynypia neithiwr, fel mae'n digwydd.
"Mae'r rhain yn bolisïau creulon a didostur sy'n effeithio ar y mwyaf bregus, yr union bobl sydd ag angen ein help ac sy'n ei haeddu.
"Cefnwyd ar y clo triphlyg a ddyfeisiwyd i amddiffyn pensiynau gwladol, oherwydd gallai symud at glo deublyg arbed biliynau i'r
Trysorlys. Mae'n siwr y gallai- ond ble mae hyn yn gadael gweithwyr cyffredin sy'n ymladd yn barod i gael dau ben llinyn ynghyd.
"Dyweda' i wrthych chi: byddant yn gweld eu pensiynau'n gostwng o £600 y flwyddyn erbyn 2026. Dyw'r rhain ddim yn bensiynwyr cyfoethog sy'n ddigon ffodus i weld eu pensiynau wythnosol yn ychwanegiad i'r cyfoeth sylweddol sydd ganddynt yn barod. Pobl gyffredin yw'r rhain sy'n stryffaglan i gael dau ben llinyn ynghyd."
Ychwanegodd Steffan Lewis, AS Plaid Cymru dros y De-ddwyrain, "Mae mater cynllun pensiynau'r glöwyr yn rhan o anghyfiawnder triphlyg a ddioddefodd y glöwyr, ynghyd â chreulondeb y wladwriaeth a dad-ddiwydiannu eu cymunedau.
"Pan gytunwyd i rannu'r arian oedd yn weddill yng nghronfa'r glöwyr yn 50/50 rhwng y gronfa a Llywodraeth y DU, freuddwydiodd neb y byddai Llywodraeth yn elwa o dros £3.5 biliwyn a feddianwyd ar gyfer gwariant cyffredinol.
"Amcangyfrifodd y Swyddfa Archwiliadau Cenedlaethol y gallai Llywodraeth y DU, dros gyfnod o 25 mlynedd, ddisgwyl derbyn £8 mewn taliadau ychwanegol o'r gronfa. Yn 2014, derbyniodd y Trysorlys £750 miliwn a chafodd £95 miliwn ychwanegol y llynedd yn gyfran o'r gweddill.
"Cefnogwyd cynnig gan Blaid Cymru i sicrhau cyfiawnder i'r glöwyr yn unfrydol yn y Senedd y llynedd. Ond rwy'n ddig bod y Torïaid yn Llundain wedi gwrthod symud.
"Mae maniffesto Plaid Cymru yn cynnwys yr addewid hwn: byddwn yn rhoi terfyn ar ddefnydd Llywodraeth y DU o arian y glöwyr fel ffynhonnell cyllid gyfleus. Buon ni'n cydweithio â chyn-löwyr a'r NUM i'r diben hwnnw. Ni fydd aelodau Plaid Cymru a etholir ar 8 Mehefin yn gorffwys hyd nes y cyflawnir ein haddewid."
Os ydych chi eisiau helpu Plaid Cymru amddiffyn Cymru, cliciwch y ddolen hon os gwelwch yn dda. Diolch.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter