Wrth siarad am eu llwyddiant ar raglen Songs of Praise y BBC meddai AC y Rhondda Leanne Wood: “Hoffwn longyfarch Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn ar eu llwyddiant arbennig.
Mae ennill Côr Ifanc y Flwyddyn (categori Iau) Songs of Praise yn gamp ardderchog ac yn lawn haeddiannol. Fe ges i’r fraint o glywed o côr yn ddiweddar felly dwi’n gwybod pa mor dda ydyn nhw.
“Mae ennill y wobr hon yn tystio i oriau lawer o ymarfer a dylem longyfarch pawb a chwaraeodd ran – y disgyblion a’r athrawon yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn wrth gwrs, ond hefyd y rhieni am eu cefnogaeth lawn.
“Rwy’n dymuno pob lwc i’r cor wrth iddynt baratoi yn awr at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, lle byddant, dwi’n siwr, ymysg y goreuon.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter