Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi sefydlu gwefan newydd i'w helpu i ledu'r gair am neges bositif ei phlaid i wella Cymru.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad sy'n byw yn y Rhondda na fydd y wefan yn cael ei defnyddio i ledu gwybodaeth am bolisïau Plaid Cymru a'u perthnasedd i'r Rhondda yn unig, ond hefyd i dderbyn barn pobl yn yr etholaeth.
Dywedodd Ms. Wood sy'n byw ym Mhenygraig y bydd y wefan yn arf pwysig i hyrwyddo gwleidyddiaeth newydd yn y Rhondda ac i hybu'r newidiadau angenrheidiol i wella bywydau pobl.
"Mae'r wefan newydd hon yn ddatblygiad cyffrous yn ymgyrch Plaid Cymru i ennill Cwm Rhondda," dywedodd Ms. Wood.
"Fe'i defnyddir i hysbysu pobl am hynt yr ymgyrch, dweud wrth bobl am yr ymweliadau byddaf yn eu gwneud a'r polisïau a gynigiwn i wella eu bywydau.
"Fe'i defnyddir yn ogystal i helpu pobl i gefnogi ymgyrchoedd, er enghraifft, rhaglen y Blaid Lafur i ganoli gwasanaethai ysbytai sydd wedi rhoi cleifion a staff Ysbyty Brenhinol Morgannwg o dan anfantais sylweddol.
"Rwyf am wybod beth sydd gan pobl y Rhondda i'w ddweud am y pmaterion sy'n effeithio ar eu bywydau pob dydd a bydd y wefan hon yn cynnig imi un ffordd o wrando ar eu barn."
Ychwanegodd Ms. Wood, "Yn barod, rydyn ni wedi siarad â miloedd o bobl yn rhan o'r ymgyrch ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ac mae'n glir bod pobl y Rhondda wedi eu dadrithio gan y Blaid Lafur ac yn galw am newid.
"Mae Plaid Cymru'n gweithio'n ddi-baid i lunio polisïau credadwy sy'n gallu dwyn budd i iechyd, addysg a sefyllfa waith ein pobl.
"Bydd y wefan hon yn dangos beth y gallwn ei wneud gyda gwahanol lywodraeth yng Nghymru. Bydd yn dangos hefyd beth sy'n bosib os down ynghyd a phleidleisio am newid ar 5 Mai eleni.
"Does dim yn anorfod am ddyfodol y Rhondda. Credaf yn gryf y gallwn ni lwyddo. Nid dyma'r gorau sy'n bosib."
Os gallwch gefnogi ymgyrch Leanne i fod yn Aelod Cynulliad nesa’r Rhondda, yna cliciwch ar y ddolen hon.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter