Bu 'Valleys Kids', a leolwyd ym Mhenygraig, a'r staff a weithiai yno, yn ddylanwad mawr ar Leanne yn ei harddegau.
Dywed Leanne,"Pan oeddwn i'n tyfu ym Mhenygraig, roedd yr hyn a alwem yn 'Bike Club' yn sefydliad bach iawn. Gweithiai llawer yno, ond y rhan fwyaf yn wirfoddol.
"Gweithiai Pauline am y rhan fwyaf o'r blynyddoedd hynny ar gyflog hanner-amser ac roedd Julie yn ymwneud â'r celfyddydau creadigol ac yn dysgu ffotograffiaeth inni. Fe'n helpodd hefyd i greu fideo a anfonwyd i gystadleuaeth ffilmiau.. Rwy'n cofio gan taw dyna fy nhaith gyntaf i Lundain a'n bod ni wedi mynd ar fws bitw gyda gweithwyr ieuenctid a nifer o bobl ifainc o Benygraig.
"Creodd 'Bike Club' Penygraig - a dyfodd yn 'Valleys Kids' - nifer o gyfleoedd i mi'n bersonol a'm cylch o ffrindiau.
"Cawsom gyfle i wirfoddoli a dysgu sgiliau amrywiol ond hefyd bu'n ddrws i mewn i wleidyddiaeth.
"Rwy'n fythol ddiolchgar i'r gweithwyr ieuenctid hynny am y trafodaethau a gawsom dros sawl dysglaid o goffi, yn aml ar nosweithiau oer, gaeafol yn selar hen swyddfeydd y Co-op ym Mhenygraig.
"Bu rhai o'r sgyrsiau hynny'n help imi ffurfio'r daliadau a'r gwerthoedd rwy'n dal i'w harddel heddiw."
Mae Leanne yn dal i gefnogi'r sefydliad hyd heddiw. 'Mae 'Valleys Kids' yn sefydliad gwirfoddol llwyddiannus sy'n cydweithio ag amrywiaeth o bobl o sawl cymuned," ebe Leanne.
"Maen nhw'n gwneud gwaith arbennig o dda gyda phobl ifainc a phlant,, yn sicrhau eu bod yn ymddiddori mewn rhywbeth ac mae ganddyn nhw weithgareddau i'w difyrru. Maen nhw'n ardderchog ac yn cyflogi llawer o bobl. maen nhw wedi datblygu i fod yn un o gyflogwyr mwyaf yr ardal."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter