I nodi 100 diwrnod i etholiadau'r Cynulliad, aeth Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, yn ôl i'w hen ysgol uwchradd.
Aeth Ms. Wood i Goleg Cymunedol Tonypandy - sydd ond rownd y gornel o'i chartref ym Mhenygraig - i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda myfyrwyr y chweched dosbarth. Gofynwyd nifer o gwestiynau yn amrywio o'r hyn y byddai Plaid Cymru'n ei wneud dros bobl ifainc pe baent mewn llywodraeth i werth defnyddio eich pleidlais mewn etholiad.
Yn ystod yr yweliad, cyfarfu Ms. Wood â phrifathrawes yr ysgol, Helen O'Sullivan. Canmolodd Ms. Wood y myfyrwyr a gymerodd ran am eu diddordeb mewn gwleidyddiaeth ac am amrywiaeth eu cwestiynau.
"Mae'n dda mynd nôl i fy hen ysgol a gweld bod disgyblion heddiw yn ddeallus, gwybodus ac yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n dal i ymddiddori ac yn datgan eu barn wleidyddol ar bob cyfle. Yr unig ffordd y bydd rhai mewn llywodraeth yn cymryd sylw ohonyn nhw a'u pryderon yw eu bod yn defnyddio'u grym yn y modd hwnnw.
"Dyna'r neges bwysicaf y gobeithiaf y cawsant o'r sesiwn."
Ychwanegodd Ms. Wood, "Mae'n warthus na fydd chweched dosbarth yn Nhonypandy ymhen dwy flynedd o dan gynlluniau ad-drefnu dadleuol y cyngor.
"Bydd rhaid i ddisgyblion fynd i ysgol arall i baratoi at arholiadau Safon A. Rwy'n rhannu pryderon athrawon y gall eu gorfodi i newid ysgol beri i lawer benderfynu peidio â sefyll Safon A a'u rhwystro rhag cyrraedd eu potensial llawn."
Os ydych chi eisiau cefnogi ymgyrch Leanne, cliciwch y ddolen hon.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter