Enwyd Arweinydd Plaid Cymru yn un o fenywod mwyaf ysbrydoledig Cymru

Edit1.JPG

Mae Leanne Wood, AC ar gyfer y Rhondda ac arweinydd Plaid Cymru, wedi cael ei dewis fel un o fenywod mwyaf ysbrydoledig Cymru gan WEN Wales fel menyw sydd wedi gwneud argraff anhygoel yn ei maes.

Wrth ymateb i'r newyddion, meddai Leanne Wood AC:

"Rwy'n falch iawn o gael fy dewis fel un o 100  Fenywod Cymru gan WEN Cymru.

“Mae’r angen i fenywod deimlo hyder, dod yn rhan o wleidyddiaeth ac ymgyrchu yn fwy nawr nag a fu erioed. Gyda chynnydd mewn ymosodiadau ar fenywod a lleiafrifoedd, rhaid gwrthod ymdrechion i’n tawelu ni.

“Mae'r mudiad #MeToo wedi agor drws i newid diwylliant. Mae angen i bawb sydd am weld diwylliant yn newid i barchu cenedlaethau'r dyfodol dynnu ynghyd a herio strwythurau grym presennol.

"Galwaf ar bob merch i gymryd rhan a gweithredu. Gyda'i gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.